Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Alun Davidson
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/03/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r
cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Joyce Watson, Michelle Brown a David Melding. 1.3 Roedd Suzy Davies a Vikki Howells yn
bresennol fel dirprwyon. 1.4 Datganodd
Huw Irranca-Davies fuddiant gan ei fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Monitro
Rhaglenni Cymru a Chadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop. Cytunodd Mr
Irranca-Davies i beidio â gofyn cwestiynau a oedd yn ymwneud â'r rolau hyn. |
|
(14.00-15.30) |
Sesiwn graffu gyda Phrif Weinidog Cymru Mark
Drakeford, Prif Weinidog Cymru Des
Clifford, Llywodraeth Cymru Piers
Bisson, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Atebodd y Prif Weinidog gwestiynau gan yr
Aelodau. |
|
(15.30-15.35) |
Papurau i’w nodi |
|
Papur 1 i'w nodi - Gohebiaeth gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru at y Cadeirydd ynghylch dyfodol cyllid rhanbarthol ar ôl Brexit - 12 Mawrth 2019 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nodwyd y papur. |
||
Papur 2 i'w nodi - Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol at Gadeiryddion Pwyllgorau ynghylch cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng y Cynulliad a'r Llywodraeth - 15 Mawrth 2019 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.2 Nodwyd y papur. |
||
Papur 3 i'w nodi - Gohebiaeth gan y Gweinidog Brexit at y Cadeirydd ynglŷn â dilyniant i gyfarfod 11 Mawrth - 18 Mawrth 2019 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.3 Nodwyd y papur. |
||
Papur 4 i'w nodi - Gohebiaeth gan Robin Walker AS at y Cadeirydd ynglŷn â gwahoddiad i ymddangos gerbron y Pwyllgor - 18 Mawrth 2019 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.4 Nodwyd y papur. |
||
Papur 5 i'w nodi - Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Cadeirydd mewn ymateb i lythyr y Pwyllgor ynghylch rôl y Cynulliad o ran deddfu ar gyfer Brexit - 20 Mawrth 2019 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.5 Nodwyd y papur. |
||
(15.35) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.35-15.50) |
Sesiwn graffu gyda Phrif Weinidog Cymru - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth
i law. |
|
(15.50-16.00) |
Craffu ar gytundebau rhyngwladol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau’r cytundebau canlynol: ·
Cytundeb
Masnach rhwng y DU a’r Swistir a Liechtenstein ·
y DU /
Swistir: Cytundeb ar Hawliau Dinasyddion yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE a’r
Cytundeb ar Ryddid Pobl i Symud 6.2 Cytunodd
yr Aelodau i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i
drafod y mater a godwyd ynghylch ymgynghori ar y cytundebau hyn, a chytundebau
blaenorol. |
|
(16.00-16.05) |
Paratoi ar gyfer Brexit – Trafod gohebiaeth ddrafft at y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Cytunodd
yr Aelodau i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit ynghylch
adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch parodrwydd ar gyfer Brexit. |