Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y paratoadau yng Nghymru ar gyfer Brexit 'heb gytundeb'
Cefndir
Mae’r Archwilydd
Cyffredinol wedi cyhoeddi adroddiad ar y ‘Paratoadau
yng Nghymru ar gyfer Brexit ‘heb gytundeb’ ym mis Chwefror 2019.
Mae’r adroddiad yn
adolygu’r trefniadau sydd wrthi’n cael eu gwneud yng Nghymru i reoli’r
goblygiadau, y risgiau a’r cyfleoedd yn sgil Brexit.
Gwaith y Pwyllgor yn y maes hwn
Un o brif ffrydiau
gwaith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yw ystyried
parodrwydd Llywodraeth Cymru. Roedd gwaith blaenorol y Pwyllgor sy’n ymwneud â
pharatoi ar gyfer Brexit yn cynnwys:
- Goblygiadau gadael yr Undeb
Ewropeaidd i borthladdoedd Cymru;
- Sut y mae Llywodraeth Cymru yn
paratoi ar gyfer Brexit?; a
- Paratoi ar gyfer Brexit - edrych
ar sectorau allweddol.
Casglu tystiolaeth
Mewn ymateb i
gyhoeddiad adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, penderfynodd y Pwyllgor gymryd
tystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd y sesiwn ar 11 Mawrth 2019.
Adrodd
Ysgrifennodd
(PDF, 197KB) y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru yn amlinellu ei sylwadau a’i
argymhellion ar 26 Mawrth 2019.
Ymatebodd
(PDF, 287KB) Llywodraeth Cymru i lythyr y Pwyllgor ar 23 Ebrill 2019.
Ar 27 Medi 2019,
cafodd y Cadeirydd ohebiaeth
gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei
adroddiad 'Paratoadau yng Nghymru ar gyfer Brexit ‘heb gytundeb’'.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/03/2019
Dogfennau
- Gohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch parodrwydd ar gyfer Brexit - 27 Medi 2019
PDF 575 KB
- Gohebiaeth gan y Gweinidog Brexit ynghylch adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y paratoadau ar gyfer Brexit yng Nghymru - 23 Ebrill 2019
PDF 287 KB
- Gohebiaeth at y Gweinidog Brexit ynghylch adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y paratoadau ar gyfer Brexit yng Nghymru - 26 Mawrth 2019
PDF 197 KB