Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 12/03/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau'r
i'r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne
Bryant AC. 1.3
O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd
Dai Lloyd AC a David Rees AC eu bod yn Aelodau Cynulliad ar gyfer etholaethau
yn rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. |
|
(09.30-11.00) |
Gwrandawiad cyn penodi: Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe Emma Woollett Briff Ymchwil Papur 1 - Datganiad Personol Papur 2 - Holiadur gwrandawiad cyn penodi Papur 3 - Curriculum Vitae Papur 4 - Crynodeb o'r broses recriwtio Papur 5 - Pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr ymgeisydd a
ffefrir gan Lywodraeth Cymru, Emma Woollett. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4 Cofnodion: 3.1 Derbyniodd yr Aelodau y Cynnig o dan Reol Sefydlog
17.42(vi) i wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 4. |
||
(11.00-11.30) |
Gwrandawiad cyn penodi: Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan
gytuno ar gynnwys ei adroddiad drafft. |
|
(12.15-13.00) |
Sepsis: Sesiwn dystiolaeth gyda Choleg Nyrsio Brenhinol Cymru Lisa Turnbull, Cynghorydd Polisi a Materion Cyhoeddus,
Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru Gemma Ellis, Aelod o'r Coleg Nyrsio Brenhinol Briff Ymchwil Papur 6 - Coleg Nyrsio Brenhinol
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o
Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru. |
|
(13.00-13.45) |
Sepsis: Sesiwn dystiolaeth gyda Choleg Brenhinol y Meddygon Cymru Dr Richard Stuart Gilpin, Cynrychiolydd Dan Hyfforddiant
Cymru ar gyfer Coleg Brenhinol y Meddygon Papur 7 - Coleg Brenhinol y Meddygon ar gyfer Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolydd
Coleg Brenhinol y Meddygon Cymru. 6.2 Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai Coleg Brenhinol y
Meddygon Cymru yn gallu darparu gwybodaeth ysgrifenedig am y newidiadau y
gellid eu gwneud i helpu i wella’r gwaith o ganfod ac ymyrryd yn gynnar mewn
achosion o Sepsis sy'n tarddu o leoliadau cymunedol. |
|
Papurau i’w nodi |
||
Llythyr oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Canolfan Adsefydlu Breswyl Brynawel Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
(13.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a'r cyfarfod ar 18 Mawrth 2020 Cofnodion: 8.1 Derbyniodd yr Aelodau y Cynnig o dan Reol Sefydlog
17.42(vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a'r cyfarfod ar 18
Mawrth. |
|
(13.45-14.00) |
Sepsis: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 9.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(14.00-14.15) |
Gofal iechyd meddwl i gleifion mewnol: cwmpas a dull gweithredu Gofal iechyd meddwl i gleifion mewnol: cwmpas a dull
gweithredu Dogfennau ategol: Cofnodion: 10.1 Trafododd y Pwyllgor ei ymchwiliad i ofal iechyd i
gleifion mewnol gan gytuno ar y dull gweithredu. |