Gwrandawiad cyn penodi: Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Gwrandawiad cyn penodi: Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Inquiry5
Gall pwyllgorau’r
Senedd gynnal gwrandawiadau craffu cyn-penodi gyda’r ymgeisydd y mae Llywodraeth
Cymru yn ei ffafrio ar gyfer penodiadau cyhoeddus arwyddocaol. Yn dilyn
gwrandawiadau o’r fath, bydd y Pwyllgor yn cyflwyno adroddiad ar ei farn ar
addasrwydd yr ymgeisydd. Y Gweinidog perthnasol fydd yn penderfynu p’un a yw’n
derbyn argymhellion y Pwyllgor yn ymwneud â’r penodiad neu beidio, ond os na
fydd y Gweinidog yn derbyn argymhelliad, dylai ymateb i’r Pwyllgor i egluro
pam.
Ym mis Mawrth 2020, cynhaliodd y Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wrandawiad cyn-penodi gyda’r
ymgeisydd yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio ar gyfer swydd Cadeirydd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Math o fusnes:
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/04/2020
Dogfennau