Sepsis
Inquiry5
Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ymchwiliad i sepsis.
Ym
mis Ionawr 2021, trafododd y Pwyllgor ei raglen waith ar gyfer gweddill cyfnod y Senedd hon ac, o ystyried yr amser cyfyngedig sydd ar ôl,
cytunwyd y bydd yn parhau i ganolbwyntio ar ei ymchwiliad i effaith Covid-19, a’r modd y mae’n cael ei reoli, ar iechyd a gofal
cymdeithasol yng Nghymru. Yn anffodus, mae hyn yn golygu nad yw’r Pwyllgor yn
gallu parhau â’i waith ar sepsis. Cytunodd y Pwyllgor i dynnu sylw at y gwaith
sydd eisoes wedi’i wneud, yn ei adroddiad etifeddiaeth, gydag argymhelliad cryf
bod ei bwyllgor olynol yn ailgychwyn yr ymchwiliad hwn cyn gynted â phosibl yn
y Chweched Senedd. Hoffai’r Pwyllgor ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i
gyfrannu eu safbwyntiau i’r ymchwiliad hwn.
Y
cefndir
Mae
sepsis wedi’i ddisgrifio fel un o'r clefydau mwyaf cyffredin, ond y lleiaf
adnabyddus, yn y byd
datblygedig
a'r byd sy'n datblygu. Mae’n gyflwr sy’n peryglu bywyd ac sy’n digwydd oherwydd
bod adwaith y corff i haint yn niweidio’i feinweoedd a’i organau ei hun. Os na
chaiff ei adnabod yn gynnar a’i drin yn brydlon, gall sepsis beri i’r organau
fethu ac arwain at farwolaeth.
Cylch
gorchwyl
Y
cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor oedd:
- Faint o ddealltwriaeth sydd o achosion o sepsis, sut
y mae cleifion sydd â sepsis yn dod i sylw gwasanaaethau, a chanlyniadau
sepsis.
- Ymwybyddiaeth gyhoeddus a phroffesiynol o sepsis.
- Adnabod a rheoli sepsis mewn lleoliadau’r tu allan
i’r ysbyty, gan gynnwys defnyddio
dulliau / canllawiau sgrinio perthnasol, a’r broses gyfeirio rhwng
gofal sylfaenol /eilaidd.
- Adnabod / rheoli sepsis mewn lleoliadau (ysbytai)
aciwt.
- Yr effaith gorfforol a meddyliol ar y rhai sy’n
goroesi sepsis, a’r cymorth sydd ei angen arnynt.
Sesiwn dystiolaeth |
Dyddiad, Agenda a Chofnodion |
Trawsgrifiad |
Fideo |
1. Ymddiriedolaeth Sepsis y DU Terence Canning, Prif Weithredwr
Cymru |
|||
2. Iechyd Cyhoeddus Cymru Dr John Boulton, Cyfarwyddwr Gwella
Ansawdd a Diogelwch Cleifion y GIG, Gwelliant Cymru Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr |
|||
3. Coleg Brenhinol yr
Ymarferwyr Cyffredino Dr Peter
Saul, Cyd-Gadeirydd |
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/09/2019
Ymgynghoriadau
- Sepsis (Wedi ei gyflawni)