Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 11/12/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Helen Mary Jones AC a Lynne
Neagle AC. Dirprwyodd Joyce Watson AC ar
ran Lynne Neagle AC. |
|
(09.30-10.15) |
Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Trafodion Cyfnod 2 Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol Frances Duffy, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol a Gwyddor
Iechyd, Llywodraeth Cymru Sarah Tyler, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru Papur 1 - Rhestr o Welliannau wedi'u didoli Papur 2 - Grwpio Gwelliannau Papur 3 - Y drefn bleidleisio ar gyfer gwelliannau a
gyflwynwyd Bil
y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru), fel y’i cyflwynwyd Bil
y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) – Memorandwm Esboniadol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 O dan reol sefydlog 17.24A, datganodd Dai Lloyd AC,
Cadeirydd y Pwyllgor, fuddiant fel meddyg teulu sydd wedi talu indemniad
meddygol yn y gorffennol tra’n gweithio fel meddyg. 2.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 26.21, trafododd y Pwyllgor
y gwelliannau a ganlyn i'r Bil, a’u gwaredu: Gwelliant 1 (Angela Burns): cafodd y gwelliant
hwn ei dynnu yn ôl, gyda chytundeb y Pwyllgor. Gwelliant 2 (Angela Burns): cafodd y gwelliant
hwn ei dynnu yn ôl, gyda chytundeb y Pwyllgor. 2.2 Cadarnhaodd y Cadeirydd y bernir bod holl adrannau’r
Bil a’r holl atodlenni iddo wedi cael eu cytuno. Yn sgil hynny, mae trafodion
Cyfnod 2 wedi'u cwblhau. |
|
(10.15) |
Papurau i’w nodi |
|
Llythyr gan y Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned ynghylch y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Gymdeithas Gwarchod Meddygol ynghylch Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.2 Nododd y
Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.3 Nododd y
Pwyllgor y llythyr. |
||
(10.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn Cofnodion: 4.1 Cytunodd y
Pwyllgor ar y Cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. |
|
(10.15-10.20) |
Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru): Trefn y drafodaeth Papur 7: Y Bil
Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru): Trefn y drafodaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor drefn y drafodaeth ar gyfer trafodion Cyfnod 2 y
Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), a chytunodd
arni. Bydd trefn y drafodaeth yn cael ei
chyhoeddi ar dudalen we'r Bil. |
|
(10.20-10.35) |
Busnes Pawb: Adroddiad ar atal hunanladdiad yng Nghymru - Gwaith dilynol Papur 8 - Busnes
Pawb: Adroddiad ar atal hunanladdiad yng Nghymru - Gwaith dilynol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu mewn
perthynas â’r gwaith dilynol sydd i'w wneud yn y maes hwn, a chytunodd arno. |
|
(10.35-11.20) |
Blaenraglen Waith: Trafod y flaenraglen waith Papur 9 –
Blaenraglen waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Cytunodd y Pwyllgor i flaenoriaethu dau
ymchwiliad i'w hystyried - ymchwiliad i leoliadau cleifion mewnol CAMHS y tu allan
i'r ardal, ac ymchwiliad i ryddhau cleifion o'r ysbyty. Cytunodd y Pwyllgor
hefyd ar nifer o ddarnau byrrach eraill o waith. Caiff
y manylion eu cyhoeddi ar wefan y Comisiwn. |