Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

1.2.      Roedd David Melding AC yn dirprwyo ar ran Janet Finch-Saunders AC ar gyfer eitemau 3 a 6.

 

1.3.      Datganodd yr Aelodau a ganlyn fuddiannau perthnasol fel aelodau o undebau:

  • John Griffiths AC;
  • Jenny Rathbone AC;
  • Joyce Watson AC;
  • Rhianon Passmore AC;
  • Siân Gwenllian AC.

 

 

 

(09.15 - 10.30)

2.

Craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – diwygio Llywodraeth Leol

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr, Llywodraeth Leol: Trawsffurfio a Phartneriaethau

Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr, Yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol

 

Papur Gwyn ar Ddiwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1.    Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

·         Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trawsnewid a Phartneriaethau Llywodraeth Leol

·         Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol

 

(10.30 - 12.00)

3.

Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - Sesiwn dystiolaeth 1: Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

John G Rees, Rheolwr Bil

Katie Wilson, Cyfreithiwr

 

Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

·         John G Rees, Rheolwr y Bil

·         Katie Wilson, Cyfreithiwr

 

2.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i:

·         Ddarparu’r ffigurau ar unrhyw gynnydd yn y stoc tai cymdeithasol mewn ardaloedd awdurdodau lleol lle y mae’r Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael wedi eu hatal dros dro o dan y Mesur Tai (Cymru) 2011;

·         Darparu nodyn ar y weithdrefn a’r meini prawf cymhwyster ar gyfer ceisiadau am ataliadau dros dro o dan Fesur Tai (Cymru) 2011;

·         Darparu drafft o’r ddogfen sy’n cynnwys gwybodaeth i denantiaid a darpar denantiaid sy’n ofynnol o dan adran 8 o’r Bil;

·         I egluro pwrpas a’r effaith a fwriadwyd ar gyfer Adran 2 ac Adran 4 o’r Bil.

 

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).

 

4.2

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch Bil yr Undebau Llafur (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch Bil yr Undebau Llafur (Cymru).

 

4.3

Gwybodaeth Ychwanegol gan y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 2 Chwefror 2017

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth Ychwanegol gan y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 2 Chwefror 2017

 

4.4

Gwybodaeth Ychwanegol gan Bartneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Bartneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.

 

4.5

Adroddiad gan y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol: Adroddiad Naratif bob chwe mis ar Wasanaethau Plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.5.a Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol: Adroddiad Naratif bob chwe mis ar Wasanaethau Plant.

 

4.6

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith mewn cysylltiad â thlodi yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.6.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith mewn cysylltiad â thlodi yng Nghymru.

 

4.7

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn cysylltiad â thlodi yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.7.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn cysylltiad â thlodi yng Nghymru.

 

4.8

Nodyn o drafodaethau’r grŵp ffocws mewn perthynas â Bil yr Undebau Llafur (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.8.a Nododd y Pwyllgor y nodyn o drafodaethau’r grŵp ffocws mewn cysylltiad â Bil yr Undebau Llafur (Cymru).

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(12.00 - 12.05)

6.

Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru): trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 3.

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 3 a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet am y materion a godwyd yn ystod y sesiwn.

 

(12.05 - 12.10)

7.

Craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol - diwygio Llywodraeth Leol: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.

 

(12.10 - 12.20)

8.

Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - Trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chymeradwyodd yr adroddiad yn amodol ar rai mân newidiadau.

 

(12.20 - 12.30)

9.

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru - trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chymeradwyodd yr adroddiad yn amodol ar rai mân newidiadau.