Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 517KB) Gweld fel HTML
(310KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r
cyfarfod. 1.2. Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins AC. 1.3. Datganodd yr Aelodau a ganlyn fuddiannau perthnasol fel aelodau o
undebau: ·
John Griffiths AC; ·
Jenny Rathbone AC ·
Joyce Watson AC ·
Rhianon Passmore AC ·
Siân Gwenllian AC. |
||
(09.15 - 10.45) |
Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 1: Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Paul Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diwygio Gwasanaethau Datganoledig Nicola Charles, Cyfreithwraig Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ·
Paul Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diwygio Gwasanaethau Datganoledig ·
Nicola Charles, Cyfreithiwr 2.2
Bu i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth
Leol wneud datganiad o fuddiant fel aelod o undeb. 2.3
Yn ystod y sesiwn, cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu
eglurhad ynghylch y graddau y bydd y Bil yn effeithio ar y rhai sy'n darparu
gwasanaethau cyhoeddus ar ran awdurdodau datganoledig yng Nghymru, yn ogystal
â'r awdurdodau hynny eu hunain a'u gweithwyr. |
|
(11.00 - 12.00) |
Craffu ar Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Sophie Howe,
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Marie
Brousseau-Navarro, Cyfarwyddwr Polisi, Deddfwriaeth ac Arloesedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ·
Marie Brousseau-Navarro, Cyfarwyddwr Polisi, Deddfwriaeth ac Arloesi 3.2 Cytunodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i ddarparu copi o’r llythyr
a anfonwyd at bob awdurdod lleol mewn perthynas â’r amserlenni statudol yn
Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Mesur Llywodraeth Leol
(Cymru) 2009. 3.3 Cytunodd y Pwyllgor
i ysgrifennu at y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar faterion na chafwyd
cyfle i’w trafod yn ystod y cyfarfod, ac ar faterion a godwyd yn ystod y
sesiwn. |
|
Papurau i'w nodi |
||
Gohebiaeth gan y Llywydd mewn cysylltiad â Senedd@Casnewydd Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Llywydd mewn perthynas â Senedd@Casnewydd |
||
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol mewn cysylltiad â ‘Llais Cryfach i Gymru: ymgysylltu â San Steffan a sefydliadau datganoledig’. Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol mewn perthynas â 'Llais Cryfach i Gymru:
ymgysylltu â Chymru/San Steffan a gwledydd datganoledig' |
||
Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mewn cysylltiad â ffoaduriaid a cheiswyr lloches Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.3 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cadeirydd i Gymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches. |
||
Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Gweinidog Gwladol dros Fewnfudo mewn cysylltiad â ffoaduriaid a cheiswyr lloches Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.4 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cadeirydd at y Gweinidog Gwladol
dros Fewnfudo ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig |
||
(12.00 - 12.15) |
Craffu ar waith Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol - trafod tystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 3 Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 3. |
|
(12.15 - 12.30) |
Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - trafod y dystiolaeth o dan eitem 2 Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2. |