Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/03/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 

1.2.      Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

1.3.      Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai’n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

(13.00 - 14.15)

2.

Ymchwiliad i COVID-19 a’i effaith ar faterion sy’n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau - sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Reg Mitchell-Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cydgysylltu Argyfwng Covid-19, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y canlynol:

·       Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

·       Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

·       Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

·       Reg Mitchell-Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu Argyfwng Covid-19, Llywodraeth Cymru

 

(14.30 - 15.15)

3.

Ymchwiliad i COVID-19 a’i effaith ar faterion sy’n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau - sesiwn dystiolaeth gyda’r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Alyson Francis, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Gymunedau, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y canlynol:

·       Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Phrif Chwip

·       Alyson Francis, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Gymunedau, Llywodraeth Cymru

 

4.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

4.1

Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â’r cyfarfod gweinidogol ynghylch Sectorau Gwaith Tai a Chynllunio Gofodol ar y Cyd, y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig (BIC)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â chyfarfod gweinidogol Sectorau Gwaith Tai a Chynllunio Gofodol ar y Cyd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig (BIC).

 

4.2

Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â'r cyfarfod gweinidogol ynghylch Sector Gwaith Cynhwysiant Digidol y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â chyfarfod gweinidogol Sectorau Gwaith Cynhwysiant Digidol y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig (BIC).

 

4.3

Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

4.4

Cyflwyniad ysgrifenedig gan CICAIR i'r ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru (Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru: Ymgynghoriad)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4.a Nododd y Pwyllgor y cyflwyniad ysgrifenedig gan CICAIR ar yr ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru (Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru: Ymgynghoriad).

 

4.5

Ymateb gan Lywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.5.a Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o'r cyfarfod ar 18 Mawrth 2021

Cofnodion:

5.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(15.15 - 15.45)

6.

Ymchwiliad i COVID-19 a’i effaith ar faterion sy’n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3.