Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Manon George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/09/2020 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd datganiad o fuddiant gan Mick Antoniw AS: mae ei fab yn weithiwr llawrydd yn y diwydiannau creadigol

 

(09.30-10.30)

2.

Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y Dirprwy Weinidog gwestiynau ar gyllid a chefnogaeth Llywodraeth Cymru i sefydliadau ac unigolion sy’n syrthio o fewn ei bortffolio.

 

3.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y papurau.

 

3.1

Gohebiaeth â Reach plc ynglŷn â’r ad-drefnu arfaethedig

Dogfennau ategol:

3.2

Gohebiaeth â Llywodraeth Cymru ynglŷn â chyllid ar gyfer y sector diwylliannol

Dogfennau ategol:

3.3

Ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad byr ar effaith COVID-19 ar chwaraeon

Dogfennau ategol:

3.4

Gohebiaeth â’r Adran Materion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon

Dogfennau ategol:

3.5

Llythyr gan Chwaraeon Cymru: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Gronfa Gwydnwch Chwaraeon.

Dogfennau ategol:

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau i’r cynnig.

 

(10.45-11.30)

5.

Sesiwn friffio gan Lywodraeth Cymru ar Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8)

Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr - Isadran y

Alan Jones, Pennaeth Cangen Deddfwriaeth – y Gymraeg

Lowri Jones, Uwch Swyddog Deddfwriaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gwrandawodd yr aelodau ar sesiwn friffio ar ddatblygiad y Rheoliadau, a’r ymgynghori yn eu cylch.

 

(11.30-12.00)

6.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

Cytunodd yr aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru gyda chwestiynau pellach ar gefnogaeth a chyllid i'r sefydliadau ym mhortffolio’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

Cytunodd yr aelodau i ofyn am ddadleuon yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiadau'r Pwyllgor o ran effaith yr achosion o COVID-19 ar y celfyddydau creadigol; effaith yr achosion o COVID-19 ar amgueddfeydd, safleoedd treftadaeth ac archifau a'r adroddiad ar effaith yr achosion o COVID-19 ar newyddiaduraeth a'r cyfryngau lleol.

Cytunodd yr aelodau i graffu ar Reoliadau Safonau’r Gymraeg (rhif 8) terfynol pan gânt eu gosod.