Ymchwiliad i’r achosion o COVID-19 ac effaith y feirws ar ddiwylliant, y diwydiannau creadigol, treftadaeth, cyfathrebu a chwaraeon

Ymchwiliad i’r achosion o COVID-19 ac effaith y feirws ar ddiwylliant, y diwydiannau creadigol, treftadaeth, cyfathrebu a chwaraeon

Bu’r ymchwiliad yn ystyried effaith yr achosion, ac effaith rheoli’r achosion ar sectorau sy’n rhan o gylch gwaith y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, gan gynnwys:

 

>>>> 

>>>diwylliant a’r diwydiannau creadigol;

>>>treftadaeth;

>>>y cyfryngau cenedlaethol a chymunedol, gan gynnwys radio cymunedol;

>>>newyddiaduraeth; ac,

>>>at ddibenion yr ymchwiliad hwn, byddwn hefyd yn edrych ar chwaraeon ar lefel lawr gwlad ac elitaidd.

<<<< 

 

Bu’r Pwyllgor yn edrych yn fanwl ar yr ymateb gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus perthnasol. Bu hefyd yn ystyried ymateb Cymru yng nghyd-destun ehangach y DU.

 

Yn benodol, roedd gan y Pwyllgor ddiddordeb mewn darganfod:

 

>>>> 

>>>Beth fu effaith uniongyrchol Covid-19 ar y sector?

>>>Pa mor effeithiol y mae’r gefnogaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a chyrff hyd braich wedi mynd i’r afael ag anghenion y sector?

>>>Beth fydd effeithiau hirdymor tebygol Covid-19 ar y sector, a pha gefnogaeth sydd ei hangen i ymdrin â’r rheini?

>>>Pa wersi y gellir eu dysgu o’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, cyrff hyd braich a’r sector wedi ymdrin â Covid-19?

>>>Sut mae modd i’r sector esblygu ar ôl Covid-19, a sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi arloesedd o’r fath i ymdrin â heriau yn y dyfodol?

<<<< 

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/08/2020

Dogfennau

Ymgynghoriadau