Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/02/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09.30-11.30)

2.

Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) - Trafodion Cyfnod 2

Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Tom Henderson, Rheolwr y Bil – Llywodraeth Cymru

Richard Lewis, Cyfreithiwr - Llywodraeth Cymru

 

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.21, dyma’r drefn ar gyfer trafodion Cyfnod 2:

Adrannau 1 i 13; Atodlen; Teitl hir.

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.68, mae’r Llywydd wedi penderfynu nad yw’r Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) yn gofyn am benderfyniad ariannol.

 

Mae’r Llywydd wedi ystyried y gwelliannau a gyflwynwyd yng Nghyfnod 2 yn unol â Rheol Sefydlog 26.72, ac mae wedi penderfynu nad yw effeithiau unrhyw un o’r gwelliannau, neu’r gwelliannau oll, os cytunir arnynt, yn gofyn am benderfyniadau ariannol.

 

Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru), fel y’i cyflwynwyd

 

Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) – Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Yn unol â Rheol Sefydlog 26.21, gwaredodd y Pwyllgor y gwelliannau a ganlyn i'r Bil:

 

Gwelliant 1 (Llyr Gruffydd)

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Llyr Gruffydd

Mike Hedges

 

Andrew RT Davies

Jenny Rathbone

 

 

Joyce Watson

 

 

Neil Hamilton

 

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

 

Gwelliant 41 (Andrew RT Davies)

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Llyr Gruffydd

Mike Hedges

 

Andrew RT Davies

Jenny Rathbone

 

 

Joyce Watson

Neil Hamilton

Gwrthodwyd gwelliant 41.

 

 

Gwelliant 2 (Llyr Gruffydd)

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Llyr Gruffydd

Mike Hedges

 

Andrew RT Davies

Jenny Rathbone

 

 

Joyce Watson

 

 

Neil Hamilton

 

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

 

 

Methodd Gwelliant 3 (Llyr Gruffydd)

 

Gwelliant 42 (Andrew RT Davies)

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Llyr Gruffydd

Mike Hedges

 

Andrew RT Davies

Jenny Rathbone

 

 

Joyce Watson

 

 

Neil Hamilton

 

Gwrthodwyd gwelliant 42.

 

 

Gwelliant 4 (Llyr Gruffydd)

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Llyr Gruffydd

Mike Hedges

 

Andrew RT Davies

Jenny Rathbone

 

 

Joyce Watson

Neil Hamilton

Gwrthodwyd gwelliant 4.

 

 

Gwelliant 5 (Llyr Gruffydd)

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Llyr Gruffydd

Mike Hedges

 

 

Jenny Rathbone

 

 

Joyce Watson

 

 

Neil Hamilton

Andrew RT Davies

Gwrthodwyd gwelliant 5.

 

 

Tynnwyd Gwelliant 6 (Llyr Gruffydd) yn ôl

 

 

Ni chynigiwyd gwelliannau 7 i 40 (Llyr Gruffydd)

 

Gwelliant 43 (Andrew RT Davies)

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Llyr Gruffydd

Mike Hedges

 

Andrew RT Davies

Jenny Rathbone

 

Neil Hamilton

Joyce Watson

 

Gan fod y bleidlais yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw yn negyddol (yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii)). Gan hynny, gwrthodwyd gwelliant 43.

 

 

Ni chynigiwyd gwelliannau 44 a 45 (Andrew RT Davies)

 

 

2.2 Cadarnhaodd y Cadeirydd y bernir bod holl adrannau’r Bil a’r holl atodlenni iddo wedi cael eu cytuno, gan gwblhau trafodion Cyfnod 2.

 

 

(11.30)

3.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

3.1

Tlodi Tanwydd - Crynodeb o’r gwaith Ymgysylltu â'r Cyhoedd

Dogfennau ategol:

3.2

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad byr y Pwyllgor ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft

Dogfennau ategol:

3.3

Y Wybodaeth Ddiweddaraf a Gwahoddiad gan Bwyllgor Sbwriel a Gwastraff Plastig Senedd Ieuenctid Cymru

Dogfennau ategol:

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

5.

Trafod y Flaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y flaenraglen waith a chytunwyd i ddechrau paratoi ar gyfer craffu ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Amaethyddiaeth y DU, Bil Pysgodfeydd y DU a Bil Amgylchedd y DU, gan ragweld y cânt eu gosod gerbron y Cynulliad.