Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/02/2021 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(15.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Yn unol â
Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y
dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd. 1.3 Os byddai
unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei
gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi
cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn
unol â Rheol Sefydlog 17.22. 1.4 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS. Dirprwyodd Huw Irranca-Davies AS ar ei
rhan. |
|
(15.00-15.40) |
Sesiwn graffu gyffredinol gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Lesley Griffiths
AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Gian Marco
Currado, Cyfarwyddwr, Yr Amgylchedd a’r Môr Christianne
Glossop, Swyddfa'r Prif Filfeddyg John Howells, Cyfarwyddwr
Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio Dean Medcraft,
Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau Tim Render,
Cyfarwyddwr Tir, Natur a Bwyd Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Bu’r Aelodau
yn holi Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. |
|
(15.50-16.30) |
Parhau â'r sesiwn graffu gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Lesley Griffiths
AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Gian Marco
Currado, Cyfarwyddwr, Yr Amgylchedd a’r Môr Christianne
Glossop, Swyddfa'r Prif Filfeddyg John Howells, Cyfarwyddwr
Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio Dean Medcraft,
Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau Tim Render,
Cyfarwyddwr Tir, Natur a Bwyd Cofnodion: 3.1 Parhaodd yr
Aelodau i holi Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. |
|
(16.30) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 4.1Cafodd y
papurau eu nodi. |
|
Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar lifogydd yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mesur Dros Dro) (Covid-19) (Diwygio) 2021 Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn cysylltiad ag effaith yr anghydfod parhaus rhwng Centrica (Nwy Prydain) ac undeb y GMB ynghylch darpariaeth NYTH Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch Fframweithiau Cyffredin Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth yn dilyn ymddangosiad y Comisiwn yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 21 Ionawr Dogfennau ategol: |
||
(16.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Sesiwn graffu gyffredinol gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitemau 2 a 3 Cofnodion: 6.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn graffu. Cytunwyd i ysgrifennu
at y Gweinidog i gael rhagor o wybodaeth am rai o'r materion a godwyd. |
||
Y diweddaraf am Fframweithiau Cyffredin Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1Cafodd y
Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf ac ystyriodd ei waith mewn perthynas â Fframweithiau
Cyffredin y DU. |