Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/01/2021 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.45) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Yn unol â
Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y
dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd. 1.3 Os byddai
unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei
gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi
cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn
unol â Rheol Sefydlog 17.22. 1.4 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS a Neil Hamilton AS. |
|
(13.45-14.45) |
Trafodaeth gyda'r Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth Tim Smith,
Cadeirydd – Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth John Davies, Llywydd
- Undeb Cenedlaethol Amaethwyr (NFU) Cymru ac aelod o'r Comisiwn Masnach ac
Amaethyddiaeth Glyn Roberts,
Llywydd - Undeb Amaethwyr Cymru ac aelod o'r Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Gadeirydd ac Aelodau o’r Comisiwn Masnach ac
Amaethyddiaeth. |
|
(15.00-16.00) |
Iechyd anifeiliaid ac atal afiechydon – sesiwn dystiolaeth 1 Christianne
Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol – Llywodraeth Cymru. Grace O'Gorman,
Uwch Reolwr Polisi Technegol – Swyddfa Genedlaethol Iechyd Anifeiliaid Cyf Ifan Lloyd, Llywydd
– Cangen Gymreig Cymdeithas Milfeddygon Prydain Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Y Prif Swyddog Milfeddygol; Swyddfa Genedlaethol
Iechyd Anifeiliaid Cyf; a Changen Gymreig Cymdeithas Milfeddygon Prydain. |
|
(16.00) |
Papur(au) i’w nodi Cofnodion: 4.1 Cafodd y
papurau eu nodi. |
|
Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer Bil Amgylchedd y DU Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a Chyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â dyletswyddau trwydded pysgota rhwyd eog a brithyll mudol 2021-2023 Dogfennau ategol: |
||
Papur gan Y Cerddwyr mewn perthynas â gwaith craffu’r Pwyllgor ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22 Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Bwyllgor Llywodraeth Leol a Chymunedau Senedd yr Alban at Lywodraeth yr Alban mewn perthynas â'r Fframwaith Cyffredin Dros Dro ar gyfer Sylweddau Peryglus (Cynllunio) Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a'r Fenter ar gyfer Cadwraeth Natur Cymru mewn perthynas â chylch gwaith bioamrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â gwaith gwaddol y Pwyllgor Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1Derbyniwyd y
cynnig. |
||
Ystyried trafodaeth gyda'r Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth o dan eitem 2 Cofnodion: 6.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 2. |
||
Iechyd anifeiliaid ac atal afiechydon:Trafod y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 3 Cofnodion: 7.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 3. |
||
Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y
Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd arni. |