Iechyd anifeiliaid ac atal afiechydon

Iechyd anifeiliaid ac atal afiechydon

 

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Senedd (“y Pwyllgor”) sesiwn untro ar iechyd anifeiliaid ac atal afiechydon.

 

Ar 21 Ionawr 2021 a 28 Ionawr 2021 cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth gyda rhanddeiliaid i lywio ei ystyriaeth o’r maes hwn. Archwiliodd y sesiynau faterion allweddol yn y maes polisi hwn, gan ganolbwyntio ar ddull Llywodraeth Cymru ar gyfer atal a rheoli clefydau ac ymwrthedd gwrthficrobaidd.

 

Ar 15 Chwefror 2021, ysgrifennodd (PDF 241KB) y Pwyllgor at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i godi nifer o faterion a godwyd yn ystod y sesiynau tystiolaeth ac ymatebodd (PDF 962KB) y Gweinidog ar 15 Mawrth 2021.

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/01/2021

Dogfennau