Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/07/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.20 - 09.30) |
Sesiwn friffio breifat cyn y prif gyfarfod: Monitro Brexit Cofnodion: Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan Elfyn Henderson o'r Gwasanaeth Ymchwil
ar ddatblygiadau Brexit yn neddfwrfeydd y DU. |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau |
||
(09.30 - 11.00) |
Sesiwn graffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig - Brexit a chraffu cyffredinol Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni,
Cynllunio a Materion Gwledig Tim Render, Cyfarwyddwr, Yr Amgylchedd a Materion Gwledig Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Gofynnodd Aelodau gwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a
Materion Gwledig a Phrif Swyddog Milfeddygol Cymru ar Strategaeth Dileu TB
Buchol Newydd Llywodraeth Cymru a pharodrwydd ar gyfer Brexit. |
|
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: Nododd yr Aelodau y papurau. |
||
Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu ar ôl Brexit Dogfennau ategol: |
||
Ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i'r adroddiad ar drefniadau llywodraethu amgylcheddol ac egwyddorion amgylcheddol ar ôl Brexit Dogfennau ategol: |
||
Ymateb Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: Cynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod |
||
(11.15 - 11.40) |
Trafod adroddiad drafft yr ymchwiliad i Dai Carbon Isel: yr Her Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd yr Aelodau y dylai'r adroddiad drafft gael ei gyhoeddi ym mis Awst
2018 gyda rhai newididau. |
|
(11.40 - 12.00) |
Trafod yr adroddiad drafft ar fframweithiau cyffredin ar gyfer yr amgylchedd ar ôl Brexit Dogfennau ategol:
Cofnodion: Derbyniodd yr Aelodau yr adroddiad gyda rhai newidiadau. |
|
(12.00 - 12.15) |
Trafod y flaenraglen waith ddrafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd yr Aelodau ar y flaenraglen waith. |