Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martha Howells
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Datganodd Huw Irranca-Davies ei fod yn Is-lywydd Cerddwyr Cymru. |
||
(09.45-10.45) |
Ymchwiliad i ddyfodol polisïau amaethyddiaeth a datblygu gwledig yng Nghymru - Ariannu, rheoleiddio a masnach Dai Davies, Hybu Cig Cymru Stephen James, Llywydd, NFU Cymru Arfon Williams, Cyswllt
Amgylchedd Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am y ffyrdd y gall arian a rheoleiddio gyfrannu
at gefnogi busnesau amaethyddol a chynnal bioamrywiaeth. Cytunodd Hybu Cig Cymru i ddarparu gwybodaeth bellach am y ffyrdd y maent
yn hyrwyddo cynnyrch cig o ddefaid llai yr ucheldir. |
|
(11.00-11.45) |
Ymchwiliad i ddyfodol polisïau amaethyddiaeth a datblygu gwledig yng Nghymru - Twristiaeth a mynediad Adrian Barsby, Cynghrair Twristiaeth Cymru Angela Charlton, Cyfarwyddwr, Ramblers Cymru Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am y ffyrdd y mae cefnogaeth ar gyfer
busnesau amaethyddol a gwledig yn cyfrannu at dwristiaeth yng Nghymru. Trafodwyd hefyd faterion yn ymwneud â
mynediad i gefn gwlad a chytunodd Cerddwyr Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth
ar lefel ddymunol o fynediad i gefn gwlad. |
|
(11:45 - 12:00) |
Papur(au) i'w nodi: Cofnodion: Nododd yr Aelodau y papurau. |
|
Llythyr oddi wrth Gynghrair Cefn Gwlad ar ddefnyddio maglau yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i'r datganiad ar ddyfodol polisïau amaethyddiaeth a datblygu gwledig yng Nghymru. Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru Dogfennau ategol: |
||
Ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig - yn dilyn y sesiwn graffu ar y gyllideb Dogfennau ategol: |
||
Adroddiad Dyfodol Ynni Craffach i Gymru - Ymateb Llywodraeth Cymru Hyd y ddogfen yma yw 27 tudalen a gellir ei gweld yma: http://www.senedd.cynulliad.cymru/documents/s57872/Ymateb%20Llywodraeth%20Cymru.pdf |
||
Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet ar faterion sy'n codi o waith y Pwyllgor Dogfennau ategol: |
||
(12:45-13:30) |
Ymchwiliad i ddyfodol polisïau amaethyddiaeth a datblygu gwledig yng Nghymru - Coedwigaeth a'r ucheldir Nick Fenwick, Undeb Amaethwyr Cymru Tony Davies, Tegwch
i'r Ucheldir Martin Bishop, Rheolwr Cenedlaethol Cymru, Confor Frances Winder, Coed
Cadw Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am y cyfleoedd a'r risgiau i ffermydd yr
ucheldir, ffermio yng Nghymru, coedwigaeth fasnachol a'r coetiroedd pe byddai
cefnogaeth ariannol ar gyfer amaethyddiaeth yn newid ar ôl 2019. Cytunodd Confor i ddarparu rhagor o wybodaeth am gyflogaeth yn y diwydiant
coedwigaeth. |
|
(13:30-14.20) |
Ymchwiliad i ddyfodol polisïau amaethyddiaeth a datblygu gwledig yng Nghymru - Cymunedau gwledig Tim Peppin, Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru Y Cynghorydd Jamie Adams Y Cynghorydd Goronwy Edwards Dafydd Gruffydd, Rheolwr Busnes ar gyfer LEADER yn Ynys
Môn a Gwynedd Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am y ffyrdd y gall cyllid gwledig gynnal
cymunedau ac ysgogi arloesedd busnes. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Cofnodion: Derbyniwyd
y cynnig. |