Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/01/2021 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.45)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

1.3 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS a Neil Hamilton AS.

 

 

(13.45-14.45)

2.

Trafodaeth gyda'r Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth

Tim Smith, Cadeirydd – Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth

John Davies, Llywydd - Undeb Cenedlaethol Amaethwyr (NFU) Cymru ac aelod o'r Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth

Glyn Roberts, Llywydd - Undeb Amaethwyr Cymru ac aelod o'r Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gadeirydd ac Aelodau o’r Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth.

(15.00-16.00)

3.

Iechyd anifeiliaid ac atal afiechydon – sesiwn dystiolaeth 1

Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol – Llywodraeth Cymru.

Grace O'Gorman, Uwch Reolwr Polisi Technegol – Swyddfa Genedlaethol Iechyd Anifeiliaid Cyf

Ifan Lloyd, Llywydd – Cangen Gymreig Cymdeithas Milfeddygon Prydain

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Y Prif Swyddog Milfeddygol; Swyddfa Genedlaethol Iechyd Anifeiliaid Cyf; a Changen Gymreig Cymdeithas Milfeddygon Prydain.

(16.00)

4.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

4.1

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer Bil Amgylchedd y DU

Dogfennau ategol:

4.2

Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a Chyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â dyletswyddau trwydded pysgota rhwyd eog a brithyll mudol 2021-2023

Dogfennau ategol:

4.3

Papur gan Y Cerddwyr mewn perthynas â gwaith craffu’r Pwyllgor ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22

Dogfennau ategol:

4.4

Gohebiaeth gan Bwyllgor Llywodraeth Leol a Chymunedau Senedd yr Alban at Lywodraeth yr Alban mewn perthynas â'r Fframwaith Cyffredin Dros Dro ar gyfer Sylweddau Peryglus (Cynllunio)

Dogfennau ategol:

4.5

Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a'r Fenter ar gyfer Cadwraeth Natur Cymru mewn perthynas â chylch gwaith bioamrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru

Dogfennau ategol:

4.6

Gohebiaeth at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â gwaith gwaddol y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1Derbyniwyd y cynnig.

6.

Ystyried trafodaeth gyda'r Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth o dan eitem 2

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 2.

7.

Iechyd anifeiliaid ac atal afiechydon:Trafod y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 3

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 3.

8.

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd arni.