Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/12/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

Cafwyd ymddiheuriadau gan Laura Jones AS a Hefin David AS. Nid oedd neb yn dirprwyo ar eu rhan.

 

(09.15 - 10.30)

2.

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Cymwysterau Cymru 2019 - 2020

David Jones, Cadeirydd Cymwysterau Cymru

Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Holodd y Pwyllgor Gymwysterau Cymru ynghylch ei Adroddiad Blynyddol.

 

(10.30)

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

3.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu at y Gweinidog Addysg ynglŷn â materion sy’n codi o gyfarfod y Pwyllgor gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 12 Tachwedd.

Dogfennau ategol:

3.2

Gwybodaeth ychwanegol gan Undeb y Prifysgolion a'r Colegau (UCU) yn dilyn y cyfarfod ar 19 Tachwedd

Dogfennau ategol:

3.3

Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Cynllun Hawliau Plant diwygiedig

Dogfennau ategol:

3.4

Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan Lywodraeth Cymru ynghylch Cymorth i iechyd meddwl a llesiant dysgwyr

Dogfennau ategol:

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod cyfan ar 10 Rhagfyr.

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.30 - 10.40)

5.

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Cymwysterau Cymru 2019 - 2020: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.

 

(10.40 - 10.50)

6.

Hawliau Plant yng Nghymru – trafod adborth gan dystion ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor ymateb y tystion a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i dynnu ei sylw at ymatebion y rhanddeiliaid, ac i ofyn am ragor o wybodaeth cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn. 

 

 

(10.50 - 11.00)

7.

COVID-19 - ystyried sut y dylid ymgysylltu â myfyrwyr prifysgol

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y dull o weithredu.