Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 20/07/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir
y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd
ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu
iechyd y cyhoedd. 1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe
bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn
Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. 1.4 Nododd y Cadeirydd ymddiheuriadau gan Janet
Finch-Saunders AS. Nid oedd dirprwy. |
|
(09.30 - 10.30) |
Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 2 gyda chynrychiolwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (ADEW) Y Cynghorydd
Ellen ap Gwynn, Dirprwy Lefarydd ar gyfer Addysg a’r Gymraeg - Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru Sharon Davies,
Pennaeth Addysg – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Karen Evans,
Cadeirydd – Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4 Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y
cynnig |
||
(10.40 - 11.00) |
Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): trafod y dystiolaeth Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod
y sesiwn flaenorol. |
|
(10.40 - 11.00) |
Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 3 gyda chynrychiolwyr y Consortia Addysg Rhanbarthol Debbie Harteveld,
Rheolwr Gyfarwyddwr – Gwasanaeth Cyflawni Addysg i Dde-ddwyrain Cymru Anna Bolt,
Pennaeth Diwygio’r Cwricwlwm ac Arloesedd – Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) Clara Seery,
Rheolwr Gyfarwyddwr - Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De
(CSC) Natalie Gould, Uwch
arweinydd o ran Diwygio'r Cwricwlwm - Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm
Canolbarth y De (CSC) Arwyn Thomas,
Rheolwr Gyfarwyddwr - Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd
Cymru (GwE) Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Consortia
Rhanbarthol. |
|
(12.00) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 6.1 Nodwyd y papurau. 6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog
Addysg yn nodi bod yr Aelodau’n fodlon y byddai'n fwy priodol gosod adroddiad
blynyddol 2018-19 gerbron y Senedd i'w nodi, a hynny yng ngoleuni'r oedi rhwng
cyhoeddi’r adroddiad a’r dyddiad posibl yn ystod tymor yr hydref pan ellir
cynnal dadl arno yn y Cyfarfod Llawn. Nododd yr Aelodau hefyd y byddent yn
falch o gael cyfle yn ystod y ddadl honno i gyfeirio at y pwyntiau sy'n codi o
waith craffu’r Pwyllgor ar adroddiad Estyn ar gyfer 2018-19, os ydynt yn
berthnasol bryd hynny. 6.3 Cytunodd y Cadeirydd i gwrdd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd
Cymru i drafod canfyddiadau gwaith dilynol yr Arolygiaeth ar ei hadroddiad
thematig ar wasanaethau pobl ifanc, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2019. |
|
Llythyr oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod ar 5 Mai Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth y Gweinidog Addysg – Y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen drawsnewid anghenion dysgu ychwanegol (ADY) Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth y Gweinidog Addysg ynghylch y ddadl ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2018-19 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth y Gweinidog Addysg ynghylch addysg ddewisol gartref Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ynghylch unedau cleifion mewnol Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) o ran COVID-19 Dogfennau ategol: |
||
(12.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 7.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.00 - 12.15) |
Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 8.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn
ystod y sesiwn flaenorol. |
|
(12.15 - 12.30) |
Blaenraglen waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor bapur ar y flaenraglen waith. 9.2 Cytunodd yr Aelodau ar y canlynol: - ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am slot i
gyfarfod yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 19 Hydref 2020, er mwyn cwblhau’r
gwaith o graffu ar y Bil; - y drefn a awgrymir ar gyfer gwaith a ohiriwyd yn sgil
COVID-19; - y rhaglen waith ar gyfer tymor yr hydref, gan ychwanegu’r
gwaith o drafod adolygiad Llywodraeth Cymru o gyllid ysgolion pan fo’n briodol.
|