Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Gweithredu Dyfodol Llwyddiannus: adolygiad annibynnol o’r cwricwlwm a threfniadau asesu yng Nghymru – sesiwn dystiolaeth 1

Yr Athro Graham Donaldson  

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sut y caiff yr adolygiad ei roi ar waith gyda'r Athro Donaldson.

 

(10.30 - 11.15)

3.

Gweithredu Dyfodol Llwyddiannus: adolygiad annibynnol o’r cwricwlwm a threfniadau asesu yng Nghymru – sesiwn dystiolaeth 2

Ysgolion Arloesi

 

Luke Mansfield, Ysgol Gynradd St Julian, Casnewydd

Dilwyn Jones, Ysgol Bryn Gwalia

Eirian Davies, Ysgol y Strade

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sut y caiff yr adolygiad ei roi ar waith gyda chynrychiolwyr o ysgolion arloesi. Cafwyd ymddiheuriadau gan Dilwyn Jones o Ysgol Bryn Gwalia.

 

(11.25 - 12.10)

4.

Ymchwiliad i wasanaethau eirioli statudol – sesiwn dystiolaeth 1

Grŵp Darparwyr Eiriolaeth Plant a Phobl Ifanc Cymru Gyfan

 

Deborah Jones, Prif Weithredwr - Voices from Care Cymru

Jackie Murphy, Prif Weithredwr - Tros Gynnal Plant

Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi - Plant yng Nghymru

Emma Phipps-Magill, Rheolwr Gwasanaeth - NYAS Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Grŵp Darparwyr Eiriolaeth Plant a Phobl Ifanc Cymru Gyfan. Cafwyd ymddiheuriadau gan Deborah Jones, Lleisiau o Ofal, a rhoddodd Christopher Dunn dystiolaeth yn ei lle.

 

 

(12.10)

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

O dan Reol Sefydlog 17.24 datganodd Llyr Gruffydd AC ei fod yn Llywydd Anrhydeddus Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol.

Nodwyd y papurau.

 

5.1

Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru – gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod ar 6 Hydref

Dogfennau ategol:

5.2

Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Adolygiad o Gyllido Addysg Uwch a Threfniadau Cyllid Myfyrwyr Cymru

Dogfennau ategol:

5.3

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes – Ariannu Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwifoddol yn y dyfodol

Dogfennau ategol:

5.4

Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes at gadeirydd y Pwyllgor - Ariannu Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol yn y dyfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes gan ofyn am eglurhad pellach ar y llythyr a anfonwyd ynghylch ariannu Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol yn y dyfodol.

 

 

5.5

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant - gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod ar 2 Tachwedd

Dogfennau ategol:

(12.10)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac yn ystod eitem 1 yng nghyfarfod yr wythnos nesaf.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.10 - 12.40)

7.

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2017 - 18 – ystyried llythyrau drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyrau ynghylch y gyllideb ddrafft, yn amodol ar fân newidiadau.