Darpariaeth o ran Eiriolaeth Statudol
Inquiry5
Cynhaliodd
y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad i ddarpariaeth o ran eiriolaeth statudol. Canolbwyntiodd y Pwyllgor ar y prif feysydd
gwaith a ganlyn -
- Y sefyllfa ddiweddaraf o ran gweithredu’r Cyfeiriad
Cenedlaethol ar gyfer Eiriolaeth Statudol i Blant a Phobl Ifanc;
- Materion eraill sy’n berthnasol i gomisiynu ac
ariannu eiriolaeth statudol;
- Effaith Rhan 10 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant 2014; a
- Clustnodi meysydd eraill sy’n flaenoriaeth lle mae
angen cynnydd o ran y gwasanaethau eiriolaeth a ddarperir.
Mae'r Pwyllgor
wedi cyhoeddi ei adroddiad
ar ganfyddiadau'r ymchwiliad.
Cyhoeddwyd yr ymateb
i'r ymchwiliad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/10/2016
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad i Ddarpariaeth o ran Eiriolaeth Statudol (Wedi ei gyflawni)