Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 11/11/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC a Jenny Rathbone AC. 1.3
Gwnaeth y Cadeirydd
ddatganiad mewn perthynas â digwyddiadau diweddar ym Mwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr. |
|
(13.00) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 2.1 Cafodd
y papurau eu nodi. |
|
Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau Llythyr gan Lywodraeth Cymru (31 Hydref 2019) Dogfennau ategol: |
||
(13.00 - 13.30) |
Ffordd liniaru'r M4: Trafod yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru PAC(5)-28-19 Papur 1 – Llythyr oddi wrth Llywodraeth
Cymru (8 Hydref 2019) Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru ynghylch ffordd liniaru’r
M4 a chytunodd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor
Economi, Seilwaith a Sgiliau gyda barn y Pwyllgor i helpu i hwyluso unrhyw
waith y mae'r Pwyllgor yn bwriadu ei wneud yn y dyfodol yn dilyn yr Adolygiad
Burns. |
|
(13.30 - 15.00) |
Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Llywodraeth Cymru Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-28-19
Papur 2 – Cyfrifon
Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 PAC(5)-28-19
Papur 3 – Papur gan yr Ysgrifennydd Parhaol ar
Fenthyciadau a buddsoddiadau PAC(5)-28-19
Papur 4 – Papur gan yr Ysgrifennydd Parhaol ar y Cyfarwyddwyr Anweithredol PAC(5)-28-19
Papur 5 – Papur gan yr Ysgrifennydd Parhaol ar y Grant Cyfalaf Sipsiwn a Theithwyr PAC(5)-28-19
Papur 6 - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Arferion
Cyllidebol Seland Newydd Shan
Morgan – Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru Peter Kennedy - Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Llywodraeth
Cymru David Richards - Cyfarwyddwr Moeseg a Llywodraethu, Llywodraeth
Cymru Natalie Pearson – Pennaeth Ymgysylltu a Datblygu Sefydliadol, Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cynhaliodd
y Pwyllgor y drydedd sesiwn graffu gyda'r Ysgrifennydd Parhaol ar Gyfrifon
Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19. 4.2
Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol i anfon adroddiad cynnydd ar ddiwedd y
flwyddyn ynghylch gwaith gweithgor Llywodraeth Cymru ar gyfer hwyluso a
hyrwyddo'r Gymraeg. |
|
(15.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitemau 6
a 7 ac Eitem 1 o gyfarfod 18
Tachwedd 2019 Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.00 - 15.45) |
Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Llywodraeth Cymru David Richards - Cyfarwyddwr Moeseg a Llywodraethu, Llywodraeth
Cymru Jeff Farrar – Cyfarwyddwr Anweithredol Ann Keane – Cyfarwyddwr Anweithredol Cofnodion: 6.1 Fel rhan o
waith craffu’r Pwyllgor ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19,
trafododd yr Aelodau rôl cyfarwyddwyr anweithredol gydag Ann Keane a Jeff
Farrar. |
|
(15.45 - 16.00) |
Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 7.1
Oherwydd cyfyngiadau amser, cafodd yr eitem hon ei gohirio. |