Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/07/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(12.45 - 13.10) |
Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Trafod yr adroddiad drafft PAC(5)-20-19 Papur 1 – Adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1
Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunodd yr Aelodau i drafod yr adroddiad drafft
diwygiedig y tu allan i'r Pwyllgor. |
|
(13.10) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
(13.10) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 3.1 Cafodd
y papurau eu nodi. 3.2
Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad
pellach ar FyNgherdynTeithio ac Addasiadau Tai ac ar y taliadau arbennig a
wnaed gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. |
|
Cynllun Llywodraeth Cymru i gynnig tocynnau bws rhatach i bobl ifanc – FyNgherdynTeithio: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (28 Mehefin 2019) Dogfennau ategol: |
||
Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (4 Mehefin 2019) Dogfennau ategol: |
||
Addasiadau Tai: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (5 Gorffennaf 2019) Dogfennau ategol: |
||
Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr Hyn a Ddysgwyd: Ymateb Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: |
||
(13.15 - 14.50) |
Ffordd Liniaru'r M4: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Papur
briffio PAC(5)-20-19
Papur 2 – Llywodraeth Cymru Andrew
Slade - Cyfarwyddwr
Cyffredinol, Grŵp
yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru Simon Jones - Cyfarwyddwr, Seilwaith yr Economi, Llywodraeth Cymru Andy Falleyn - Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyflenwi Seilwaith, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i'r
costau yr aed iddynt ar Ffordd Liniaru'r M4. 4.2
Cytunodd Andrew Slade i ddarparu'r canlynol: ·
Cyfanswm y
gost net ar gyfer datblygiad yr M4 - gan restru fesul eitem gyfanswm costau’r
datblygiad ynghyd â’r costau dirwyn i ben ac unrhyw gostau cysylltiedig eraill,
namyn unrhyw elw a wnaed o werthu’r eiddo a gaffaelwyd, incwm arall neu gostau a adenillwyd. ·
Copïau o
Adroddiad Dewisiadau Amgen a awgrymwyd gan Wrthwynebwyr ar gyfer coridor yr M4
o amgylch Casnewydd (Mawrth 2017) ·
Dadansoddiad
o'r gwaith twnelu arfaethedig o dan Lefelau Gwent, sut y cafodd y costau hyn eu
meincnodi, a pha ganran oeddent o gostau cyffredinol y dewisiadau eraill ·
Yr
amserlen ar gyfer gwaredu'r eiddo sydd ym meddiant Llywodraeth Cymru |
|
(15.00 - 16.30) |
Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Papur
briffio PAC(5)-20-19
Papur 3 – Llywodraeth Cymru Dr Andrew
Goodall – Cyfarwyddwr
Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru Alan Brace –Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru Helen Arthur - Cyfarwyddwr Gweithlu a Datblygu
Sefydliadol, Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i
weithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014. 5.2
Cytunodd Dr Andrew Goodall y byddai yn: ·
Rhoi'r manylion o'r ymarfer recriwtio allanol diweddar i
benodi Cyfarwyddwr Trawsnewid BIPBC ·
Rhoi
disgrifiad, ynghyd ag enghreifftiau, o'r hyn sydd wedi cael ei ariannu fel rhan
o'r Gronfa Drawsnewid 5.3 Oherwydd
cyfyngiadau amser, dywedodd y Cadeirydd y byddai'n ysgrifennu at Lywodraeth
Cymru gyda nifer o gwestiynau am y defnydd o staff asiantaeth yn GIG Cymru. |
|
(16.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Eitemau 7 & 8 Cofnodion: 6.1
Cytunwyd ar y cynnig a oedd hefyd yn cynnwys y cyfarfod ar 16 Medi 2019. |
|
(16.30 - 16.45) |
Ffordd liniaru'r M4: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 7.1
Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(16.45 - 17.00) |
Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 8.1
Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law. |