Cynllun tocynnau bws rhatach Llywodraeth Cymru – FyNgherdynTeithio

Cynllun tocynnau bws rhatach Llywodraeth Cymru – FyNgherdynTeithio

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad ar gynllun tocynnau bws rhatach Llywodraeth Cymru – ‘FyNgherdynTeithio’ ar 10 Ionawr 2019.

Ym mis Medi 2014, cyhoeddodd Gweinidogion Llywodraeth Cymru gynllun peilot ar gyfer cynllun tocynnau rhatach i bobl ifanc 16 a 17 oed ar gyfer teithio i’w gwaith neu hyfforddiant ac yn ôl. Nododd cyllid gwerth £14.75 miliwn ar gyfer y cynllun rhwng mis Medi 2015 a mis Mawrth 2017. Yn ddiweddarach, cymeradwyodd Gweinidogion ehangu’r cynllun, gyda’r un cyllid, i gynnwys unrhyw daith yng Nghymru ac i gynnwys pobl 18 oed.

Trafododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr Adroddiad ym mis Ionawr 2019 a chynhaliodd sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ym mis Mai 2019.

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/01/2019

Dogfennau