Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/04/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. |
|
(13.30 - 13.35) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 2.1 Cafodd
y papurau eu nodi. |
|
Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu (20 Mawrth 2019) Dogfennau ategol: |
||
Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor: Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (15 Mawrth 2019) Dogfennau ategol: |
||
Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Gwybodaeth Ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (Mawrth 2019) Dogfennau ategol: |
||
(13.35 - 15.00) |
Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB) Cymru Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-10-19
Papur 1 – Papur gan RNIB PAC(5)-10-19
Papur 2 - Astudiaeth cleifion RNIB PAC(5)-10-19
Papur 3 - Datganiad Lywodraeth Cymru: Cyflwyno system ddigidol newydd ar gyfer
gofal llygaid a chyllid gweddnewid ar gyfer gwasanaethau gofal llygaid (13
Mawrth 2019) Ansley Workman, Cyfarwyddwr, RNIB Cymru Elin Haf Edwards - Rheolwr Materion Allanol, RNIB Cymru Gareth Davies - Arweinydd Ymgysylltu â Rhanddeiliaid ar
gyfer Iechyd Llygaid a chynrychiolwr cleifion, RNIB Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cafodd yr
aelodau dystiolaeth gan Ansley Workman, Cyfarwyddwr, Elin Haf Edwards, Rheolwr
Materion Allanol, a Gareth Davies, Arweinydd Ymgysylltu â Rhanddeiliaid Iechyd
Llygaid a chynrychiolydd cleifion o RNIB Cymru, fel rhan o'r ymchwiliad i reoli
apwyntiadau cleifion allanol ledled Cymru. 3.2
Cytunodd RNIB Cymru i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am: ·
Cyllid ar
gyfer Swyddogion Cyswllt clinigau llygaid ym mhob bwrdd iechyd; ·
Strwythur
staffio cyffredinol Canolfannau Diagnostig a Thriniaeth Opthalmeg; a ·
Mwy o
wybodaeth am gyflwyno’r cofnod electronig e-atgyfeirio i gleifion a'r wybodaeth
sydd ei hangen i sicrhau bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd o ran
delweddu a thechnoleg er mwyn caniatáu i bryderon ynghylch cleifion gael eu
cyfeirio at ymgynghorwyr |
|
(15.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Eitem 5 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd
y cynnig. |
|
(15.00 - 15.30) |
Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Trafod y dystiolaeth a gafwyd Cofnodion: 5.1
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd. |
|
Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor Cofnodion: 6.1 Tynnodd
Adam Price AC sylw’r Aelodau at y penderfyniad diweddar a wnaed gan yr Uchel
Lys mewn perthynas â diswyddo Carl Sargeant. Mynegodd ei bryder fod rhai
cwestiynau’n parhau ym meddyliau pobl o ran doethineb y penderfyniadau a wnaed
gan Lywodraeth Cymru. Oherwydd hyn, cynigiodd y dylai’r Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus ofyn am gopi o adroddiad, a gafodd ei ddatgelu i’r wasg, a gynhaliwyd
gan yr Ysgrifennydd Parhaol, ond gyda’r golygiadau priodol. Cefnogwyd ef gan
Neil Hamilton AC a Mohammad Asghar AC. 6.2 Nid
oedd Jenny Rathbone AC yn argyhoeddedig mai'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus oedd
y Pwyllgor priodol i ofyn am y ddogfen hon, a gofynnodd i ohirio'r drafodaeth
er mwyn caniatáu iddi ystyried penderfyniad yr Uchel Lys a chael cyngor
priodol. Cafodd ei chefnogi gan Vikki Howells AC a Rhianon Passmore AC 6.3
Cefnogodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor, awgrym Jenny Rathbone, a
chytunwyd y byddai'r eitem yn cael ei hychwanegu at yr agenda ar gyfer cyfarfod
y Pwyllgor ar 29 Ebrill. |