Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 28/01/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor a chroesawodd Vikki Howells AC yn ôl fel
aelod o'r Pwyllgor. Diolchodd i Jack Sargeant AC am ei gyfraniadau. |
|
(13.15) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 2.1 Cafodd
y papurau eu nodi. |
|
Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (7 Ionawr 2019) Dogfennau ategol: |
||
Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (14 Ionawr 2019) Dogfennau ategol: |
||
Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (15 Ionawr 2019) Dogfennau ategol: |
||
(13.20-15.00) |
Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr Hyn a Ddysgwyd - Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-02-19 Papur 1 – Papur Lywodraeth Cymru PAC(5)-02-19 Papur 2 - Llythyr gan Comisiynydd Pobl Hŷn
Cymru (22 Ionawr 2019) Dr Andrew Goodall – Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru Simon Dean - Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru Jo Jordan - Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethiant a
Gwasanaethau Corfforaethol y GIG, Llywodraeth Cymru Alan Brace - Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Clywodd Aelodau dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru; Simon Dean,
Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru; Jo Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl,
Llywodraethu GIG a Gwasanaethau Corfforaethol; ac Alan Brace, Cyfarwyddwr
Cyllid, Llywodraeth Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i'r hyn a ddysgwyd o
Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 3.2
Cytunodd Dr Goodall i anfon dadansoddiad o arolwg staff y bwrdd iechyd sy'n
dangos lefel y gwelliant dros y tair blynedd diwethaf. Cytunodd hefyd i anfon
manylion o arolygon staff byrddau iechyd eraill er mwyn rhoi darlun ar draws
Cymru. |
|
(15.10 - 15.25) |
Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor PAC(5)-02-19
Papur 3 – Ymateb Llywodraeth Cymru PAC(5)-02-19 Papur 4 – Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol
Cymru ar ymateb Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Trafododd yr Aelodau'r ymateb, gan gytuno y byddai'r Cadeirydd yn
ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion. |
|
(15.25 - 15.40) |
Cyfoeth Naturiol Cymru: Ymatebion i adroddiad y Pwyllgor PAC(5)-02-19
Papur 5 – Ymateb Llywodraeth Cymru PAC(5)-02-19
Papur 6 – Ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau'r ymatebion i'r adroddiad a nodwyd y trefnwyd i
Gyfoeth Naturiol Cymru ddod i'r Pwyllgor ar 11 Chwefror. |
|
(15.40) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Eitemau 7 8
& 9 Cofnodion: 6.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.40 - 16.00) |
Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr Hyn a Ddysgwyd - Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 7.1
Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(16.00 - 16.20) |
Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood: Trafod yr adroddiad drafft PAC(5)-02-19 Papur 7 – Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1
Trafododd yr Aelodau ar yr adroddiad drafft. Cytunwyd y byddai fersiwn arall yn
cael ei hanfon atynt ar gyfer eu cytundeb yn ddiweddarach yr wythnos hon. 8.2
Cytunodd yr Aelodau i gynnal dadl ar yr Adroddiad yn y Cyfarfod Llawn. |
|
(16.20- 17.00) |
Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Trafod yr adroddiad drafft PAC(5)-02-19 Papur 8 – Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Trafododd yr Aelodau'r adroddiad drafft ac, oherwydd cyfyngiadau amser,
cytunwyd i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf. |