Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/10/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AC.

1.3            Gwnaeth Adam Price AC ddatganiad o fuddiant yn sgil y ffaith mai ef yw'r Comisiynydd sy'n gyfrifol am ieithoedd swyddogol y Cynulliad, ac am ddarparu a thrawsnewid gwasanaethau i'r Aelodau.

 

(13.15 - 13.20)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Llythyr gan Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (3 Hydref 2018)

Dogfennau ategol:

2.2

Llywodraethu a goruchwylio cyrff hyd braich: Diweddariad gan yr Ysgrifennydd Parhaol (25 Medi 2018)

Dogfennau ategol:

(13.20 - 15.30)

3.

Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil – Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil – Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd

PAC(5)-27-18 Papur 1 - Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18

PAC(5)-27-18 Papur 2 – Cyfrifon Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau 2017-18

PAC(5)-27-18 Papur 3 – Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol (22 Awst 2018)

 

Shan Morgan – Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

Gawain Evans - Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru

David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethiant, Llywodraeth Cymru

Peter Kennedy - Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Llywodraeth Cymru

Peter Ryland - Dirprwy Gyfarwyddwr, Perfformiad Rhaglenni a Chyllid, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Holodd yr Aelodau y tystion a ganlyn mewn perthynas â chyfrifon cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18: Shan Morgan, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru; Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid; David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethiant; Peter Kennedy, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol; a Peter Ryland, Dirprwy Gyfarwyddwr, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).

3.2 Cytunodd Shan Morgan i gymryd cyngor cyfreithiol ynghylch a yw'n bosibl iddi ddatgelu rhagor o wybodaeth am gytundebau prydlesu rhwng Llywodraeth Cymru ac is-ddeiliaid prydlesoedd a fydd yn denantiaid sydd â meddiant.

 

(15.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitemau 5, 6 a 7

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.30 - 15.45)

5.

Craffu ar Gyfrifon 2017-18: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(15.45 - 16.15)

6.

Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-27-18 Papur 4 - Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft, a chytunwyd arno, yn amodol ar rai mân newidiadau.

 

(16.15 - 16.30)

7.

Blaenraglen Waith

PAC(5)-27-18 Papur 5 – Blaenraglen Waith

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nododd yr Aelodau y flaenraglen waith.