Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/10/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1.
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 1.2.
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC ac Adam Price AC. Ni chafwyd dirprwyon. |
|
(13.15 - 13.25) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y
papurau eu nodi. |
|
Llywodraeth Cymru yn Ariannu Kancoat Ltd: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (6 Medi 2018) Dogfennau ategol: |
||
Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Craffu ar Gyfrifon Llyfrgell Genedlaethol Cymru (6 Medi 2018) Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai: Diweddariad gan Lywodraeth Cymru (20 Medi 2018) Dogfennau ategol: |
||
Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood: Gohebiaeth gan Bethan Sayed AC, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu (28 Medi 2018) Dogfennau ategol: |
||
(13.25 - 13.35) |
Addasiadau tai: ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor PAC(5)-26-18
Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Trafododd
yr Aelodau yr ymateb a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn gofyn am ddiweddariad
pellach am weithredu'r argymhellion yn ystod gwanwyn 2019. |
|
(13.35 - 13.50) |
Caffael Cyhoeddus yng Nghymru a’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-26-18 Papur 2 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet
dros Gyllid (5 Medi 2018) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Trafododd yr
Aelodau y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a chytunwyd i gynnal
sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach y tymor hwn. |
|
(13.50 - 14.50) |
Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Comisiwn y Cynulliad Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-26-18
Papur 3 - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18 Manon
Antoniazzi - Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Nia Morgan - Cyfarwyddwr Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Suzy Davies AC - Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gyllideb a
Llywodraethu Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Craffodd
yr Aelodau ar waith Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, Nia
Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a Suzy Davies AC, y
Comisiynydd sy'n gyfrifol am y Gyllideb a Llywodraethu ar Adroddiad Blynyddol a
Chyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2017-18. 5.2
Cytunodd Manon Antoniazzi i ysgrifennu at y Cadeirydd gyda barn Comisiwn y
Cynulliad unwaith y bydd wedi ystyried y papur yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd
ynghylch Dangosyddion Perfformiad Allweddol y contract newydd ar gyfer caffael. |
|
(15.00 - 16.15) |
Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-26-18
Papur 4 - Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Adroddiad Blynyddol a
Chyfrifon 2017-18 PAC(5)-26-18
Papur 5 - Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – Diweddariad
ar argymhellion y Pwyllgor ar Adroddiad
Blynyddol a Chyfrifon 2013-14 Nick
Bennet – Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Katrin
Shaw - Cyfarwyddwr Polisi,
Cyfreithiol a Llywodraethu, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru David
Meaden - Cyfrifydd Ariannol, Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Craffodd
yr Aelodau ar waith Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,
Katrin Shaw, Cyfarwyddwr Polisi, Cyfreithiol a Llywodraethu a David Meaden,
Cyfrifydd Ariannol, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ar Adroddiad
Blynyddol a Chyfrifon 2017-18 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. |
|
(16.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Eitem 8 Cofnodion: 7.1 Derbyniwyd
y cynnig. |
|
(16.15 - 16.30) |
Craffu ar Gyfrifon 2017-18: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 8.1 Trafododd
yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |