Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 25/06/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.20 - 14.00) |
Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Materion Allweddol ac Argymhellion Drafft PAC(5)-18-18 Papur 1- Materion Allweddol ac Argymhellion
drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1. Trafododd yr Aelodau y materion allweddol a'r
argymhellion drafft a nodwyd y trefnir i'r adroddiad drafft gael ei drafod yn y
Pwyllgor ar 9 Gorffennaf. |
|
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
2.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC ac Adam Price AC. Roedd Mike Hedges AC
yn bresennol fel dirprwy. |
|
(14.00 - 14.05) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Cafodd
y papurau eu nodi. |
|
(14.05 - 15.15) |
Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif: Sesiwn Dystiolaeth 3 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-18-18 Papur 2 – Llywodraeth Cymru Tracey Burke - Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a
Gwasanaethau Cyhoeddus Steve Davies - Cyfarwyddwr, Yr Is-Adran Addysg, Llywodraeth Cymru Melanie Godfrey - Dirprwy Gyfarwyddwr Busnes Addysg a Llywodraethu Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1
Rhoddwyd tystiolaeth i'r Aelodau gan Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol
Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus; Steve Davies, Cyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth
Addysg; a Melanie Godfrey, Dirprwy Gyfarwyddwr Busnes Addysg a Llywodraethu,
Llywodraeth Cymru fel rhan o'i ymchwiliad i Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain
Ganrif. 4.2
Cytunodd Tracey Burke i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor. 4.3 Bydd y
Pwyllgor yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn amlinellu ei ganfyddiadau. |
|
(15.25 - 16.30) |
Addasiadau Tai: Sesiwn Dystiolaeth 4 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-18-18 Papur 3 – Llywodraeth Cymru Tracey Burke - Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a
Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru John Howells - Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth
Cymru Emma Williams - Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai, Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1
Rhoddwyd tystiolaeth i'r Aelodau gan Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol
Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus; John Howells, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio; ac
Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai Llywodraeth Cymru fel rhan o'i
ymchwiliad i addasiadau tai. 5.2
Cytunodd Tracey Burke i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor. 5.3
Cytunodd y Pwyllgor i roi adroddiad ar ei ganfyddiadau i Lywodraeth Cymru cyn
Toriad yr Haf. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Eitemau 7 & 8 Cofnodion: 6.1
Derbyniwyd y cynnig. |
||
(16.30 - 16.45) |
Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 7.1
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(16.45 - 17.00) |
Addasiadau Tai: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 8.1
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |