Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod Preifat
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod ac estynnwyd croeso i Adam Price AC a
etholwyd yn aelod o'r Pwyllgor ar 18 Hydref. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei rhan. |
|
(14.00 - 14.05) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Gwasanaethau rheilffyrdd: gohebiaeth gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau (10 Hydref 2017) Dogfennau ategol: |
||
(14.05 - 14.20) |
Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Caffael Cyhoeddus yng Nghymru Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-27-17 Papur 1 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wybodaeth ar lafar am
ganfyddiadau ei adroddiad ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru, a gyhoeddwyd ar 17
Hydref. Hysbyswyd y Pwyllgor gan yr Archwilydd Cyffredinol y byddai adroddiad
arall ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y
flwyddyn. 3.2 Nododd yr Aelodau yr adroddiad a chytunwyd i ymgymryd ag ymchwiliad pan
gyhoeddir adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar y Gwasanaeth Caffael
Cenedlaethol. |
|
(14.20 - 14.50) |
Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru PAC(5)-27-17 Papur 2 - Papur cwmpasu ar gyfer yr ymchwiliad Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Trafododd yr Aelodau y papur cwmpasu ar gyfer yr ymchwiliad i'r Rhaglen
Cefnogi Pobl 4.2 Cytunodd yr Aelodau y dylai'r ymchwiliad ganolbwyntio ar effaith
datblygiadau polisi ehangach; trefniadau dosbarthu cyllid a chynllunio
ariannol; a monitro a gwerthuso effaith y rhaglen. Cytunodd yr Aelodau hefyd i
gynnal ymgynghoriad ysgrifenedig. |
|
(14.50 - 15.30) |
Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd yr Aelodau ddadansoddiad llafar o'r ymatebion i'r ymgynghoriad
gan Hywel Dafydd o'r Gwasanaeth Ymchwil. Siaradodd Sally Jones o'r Tîm
Cyfathrebu am ganfyddiadau'r cyfarfodydd grwpiau ffocws a gynhaliwyd gyda
phlant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal. 5.2 Trafododd yr Aelodau gwmpas yr ymchwiliad a thystion posibl ar gyfer
Rhan 1 yr ymchwiliad. |
|
(15.30 - 16.00) |
Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor: briffio'r Aelodau - trafodaeth ar ddull gweithredu PAC(5)-27-17 Papur 3 - Briffio ar gyfer Papurau’r Pwyllgor Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau bapur ar y deunydd briffio maent yn ei gael i'w
cynorthwyo gyda'u gwaith paratoi ar gyfer sesiynau casglu tystiolaeth. |