Gwasanaethau Rheilffyrdd

Gwasanaethau Rheilffyrdd

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad ar wasanaethau rheilffyrdd ym mis Medi 2016 a oedd yn ymdrin ag amrywiaeth o faterion:

  • Pwerau Llywodraeth Cymru dros wasanaethau rheilffyrdd a’i pherthynas â Network Rail;
  • Y lefel gyffredinol o fuddsoddiad mewn gwasanaethau rheilffyrdd yn y blynyddoedd diwethaf (o ffynonellau gwahanol);
  • Perfformiad masnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r Gororau; a
  • Datblygu’r cynlluniau ar gyfer y fasnachfraint nesaf o 2018 ymlaen.

Bu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn trafod adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, gan benderfynu peidio â chynnal ymchwiliad oherwydd bwriad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i gynnal ymchwiliad i faterion tebyg

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/08/2016

Dogfennau