Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 393KB) Gweld fel HTML (262KB)

 

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd Aelodau'r Pwyllgor ac estynnodd groeso i Jennette Arnold, Dirprwy Gadeirydd Cynulliad Llundain a Katie Smith, Pennaeth Craffu yng Nghynulliad Llundain.

1.2       Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

1.3       Datganodd Neil McEvoy fuddiant fel Cynghorydd ar Gyngor Dinas Caerdydd a'i fod yn adnabod Graham Hinchey o Gyngor Dinas Caerdydd.

 

(14.00 - 14.05)

2.

Papur(au) i'w nodi:

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i godi pryderon am fesurau gwrth-dwyll Llywodraeth Cymru gyda'r Ysgrifennydd Parhaol yn ddiweddarach yn y tymor.

 

2.1

Sesiwn ymadawol: Llythyr gan Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (24 Ionawr 2017)

Dogfennau ategol:

2.2

Adroddiad y Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol 2015-2016

PAC(5)-05-17 PTN2 – Llythyr gan Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

PAC(5)-05-17 PTN3 - Adroddiad y Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol 2015-16

 

Dogfennau ategol:

(14.05 - 15.05)

3.

Dull strategol cynghorau o greu incwm a chodi tâl: Sesiwn dystiolaeth 1

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-05-17 Papur 1 – Papur gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

John Rae – Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Graham Hinchey – Aelod Cabinet – Gwasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad, Cyngor Dinas Caerdydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Graham Hinchey, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad, Cyngor Dinas Caerdydd ar ddull strategol cynghorau o greu incwm a chodi tâl.

3.2 Cytunodd Jon Rae i wirio ac anfon gwybodaeth bellach am unrhyw gynlluniau yng Nghymru sy'n cynhyrchu incwm ar gyfer awdurdodau lleol.

3.3 Cytunodd Graham Hinchey i anfon manylion ariannol y cynlluniau a gyflwynwyd gan Gyngor Dinas Caerdydd ers 2012 sy'n cynhyrchu incwm ar gyfer yr awdurdod lleol ynghyd ag enghreifftiau o gynlluniau arloesol y mae'r awdurdod lleol wedi'u cyflwyno sydd o fudd i awdurdodau lleol eraill drwy rannu arfer da.

 

(15.15 - 16.15)

4.

Dull strategol cynghorau o greu incwm a chodi tâl: Sesiwn dystiolaeth 2

PAC(5)-05-17 Papur 2 – Papur gan Lywodraeth Cymru

 

Reg Kilpatrick – Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Debra Carter – Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Crafodd y Pwyllgor ar waith Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol a Debra Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru ar ddull strategol cynghorau o greu incwm a chodi tâl.

4.2 Cytunodd Reg Kilpatrick i anfon manylion am enghreifftiau o arfer da yn Lloegr lle mae nifer o awdurdodau lleol wedi mabwysiadu dull newydd o greu cwmnïau masnachu i gynhyrchu incwm.

 

(16.15)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 6 & 7

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.15 - 16.30)

6.

Dull strategol cynghorau o greu incwm a chodi tâl: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Ystyriodd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau gyda sylwadau fel rhan o'u hystyriaeth o'r Papur Gwyn ar Lywodraeth Leol.

 

(16.30 - 17.00)

7.

Arlwyo mewn Ysbytai a Maeth Cleifion: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-05-17 Papur 3 - Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd Aelodau'r adroddiad drafft a gwneud nifer o awgrymiadau a fydd yn cael eu hymgorffori mewn fersiwn ddrafft arall. Trefnir bod y Pwyllgor yn ystyried hyn ymhellach.