Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC, Vicki Howells AC a Rhianon Passmore AC. Ni chafwyd dirprwyon.

 

(09.00 - 09.10)

2.

Y Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif: Trafod llythyr y Pwyllgor

PAC(5)-22-18 Papur 1 – Llythyr drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd yr Aelodau y llythyr, a chytunwyd arno, yn amodol ar rai mân newidiadau.

 

(09.10 - 09.30)

3.

Addasiadau Tai: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-22-18 Papur 2 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft, a chytunwyd arno, yn amodol ar rai mân newidiadau.

 

(09.30 - 09.40)

4.

Y Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-22-18 Papur 3 - Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-22-18 Papur 4 – Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor ar y Rhaglen Cefnogi Pobl.

4.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad ynghylch nifer o ymatebion i argymhellion yr Adroddiad.

 

(09.40 - 09.50)

5.

Adroddiad y Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol 2016-2017

PAC(5)-22-18 Papur 5 – Adroddiad y Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol 2016-17

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd yr Aelodau yr adroddiad a’i nodi.

 

(09.50 - 10.00)

6.

Heriau digideiddio

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y cylch gorchwyl drafft ar gyfer y grŵp rapporteur Heriau Digideiddio, a chytunodd arno.