Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod Preifat
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil McEvoy AC. Ni
chafwyd dirprwy ar ei ran. |
|
(14.00 - 14.05) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd
y papurau eu nodi. |
|
Llywodraethiant Bwrdd Iechyd GIG Cymru: Llythyr gan Dr Kate Chamberlain, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (12 Rhagfyr 2016) Dogfennau ategol: |
||
Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (14 Rhagfyr 2016) Dogfennau ategol: |
||
(14.05 - 15.00) |
Gweithdrefnau ac Arferion Gwaith y Pwyllgor PAC(5)-01-17 Papur 1 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Trafododd yr Aelodau'r papur a thrafododd yr awgrymiadau sydd ynddo. 3.2 Bydd y
Clercod yn paratoi papur pellach ac yn cynnwys enghreifftiau o fodelau gwaith
gwahanol er mwyn galluogi'r Aelodau i gael trafodaeth bellach. |
|
(15.00 - 15.20) |
Gwasanaethau Orthopedig: y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-01-17 Papur 2 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru PAC(5)-01-17 Papur 3 – Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd
Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1
Trafododd yr Aelodau wybodaeth ddiweddaraf Llywodraeth Cymru am fwrw ymlaen â'r
argymhellion a geir yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, a gyhoeddwyd ym
mis Mehefin 2015, a nodwyd fod Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr y GIG, yn
mynychu cyfarfod y Pwyllgor ar 23 Ionawr er mwyn archwilio'r wybodaeth
ddiweddaraf ymhellach. 4.2
Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Dr Goodall cyn y cyfarfod yn rhoi gwybod
iddo am feysydd y mae'r Aelodau wedi mynegi diddordeb yn eu trafod gydag
ef. |
|
(15.20-15.40) |
Amseroedd Aros y GIG ar gyfer Gofal Dewisol yng Nghymru: y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-01-17 Papur 4 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru PAC(5)-01-17 Papur 5 – Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd
Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1
Trafododd yr Aelodau wybodaeth ddiweddaraf Llywodraeth Cymru am fwrw ymlaen â'r
argymhellion a geir yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, a gyhoeddwyd ym
mis Ionawr 2015, a nodwyd fod Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr y GIG, yn
mynychu cyfarfod y Pwyllgor ar 23 Ionawr er mwyn archwilio'r wybodaeth
ddiweddaraf ymhellach. |
|
(15.50 - 16.20) |
Consortia Addysg Rhanbarthol: papur cwmpasu'r ymchwiliad PAC(5)-01-17 Papur 6 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1
Trafododd yr Aelodau'r papur cwmpasu a: · chytunwyd ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad; · trafodwyd y rhestr awgrymedig o dystion; · cytunwyd i gynnal ymgynghoriad ysgrifenedig;
a · chytunwyd i gynnal ymgynghoriad ar-lein gydag
athrawon a phenaethiaid. |
|
(16.20 - 16.50) |
Archwilydd Cyffredinol Cymru - Blaenraglen waith PAC(5)-01-17 Papur 7 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1
Trafododd yr Aelodau'r gwaith sydd ar y gweill a nodwyd eu dewis ar gyfer y
gwaith hwnnw a geir ym mlaenraglen waith Archwilydd Cyffredinol Cymru a nododd
y byddai'r eitem hon yn cael ei thrafod ymhellach yn y cyfarfod ar 16 Ionawr
2017. |
|
(16.50 - 17.00) |
Darpar Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru: Trafod y llythyr drafft PAC(5)-01-17 Papur 8 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1
Cytunodd yr Aelodau ar y llythyr drafft a fydd yn cael ei anfon cyn i'r
Ysgrifennydd Parhaol newydd ddechrau yn ei swydd ar 6 Chwefror 2017. |