Llywodraethiant Bwrdd Iechyd GIG Cymru
Llywodraethiant Bwrdd Iechyd GIG Cymru
Ar ôl i Swyddfa
Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gyhoeddi eu hadolygiad ar y
cyd ym mis Mehefin 2013, cynhaliodd y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad i
drefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’n
cadw golwg ar y sefyllfa ers i adroddiad y Pwyllgor gael ei gyhoeddi ym mis
Rhagfyr 2013.
Mewn gwaith
dilynol, cytunodd y Pwyllgor hefyd i edrych ar drefniadau llywodraethu yn
gyffredinol ym myrddau iechyd Cymru.
Mae adroddiad y
Pwyllgor, Materion
ehangach sy’n deillio o adolygiad llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr (PDF 803KB) (a gyhoeddwyd ar 26 Chwefror 2016), yn cynnwys
casgliadau'r Pwyllgor ynglŷn
â threfniadau
llywodraethu byrddau iechyd, y sefyllfa bresennol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr a'r dystiolaeth a gasglodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe
Bro Morgannwg, ynghyd â'i safbwyntiau am y sefyllfa ariannol ym maes iechyd. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr (PDF 869KB) i’r adroddiad ym Mehefin 2016.
Yn ei Adroddiad
Etifeddiaeth, argymhellodd y Pwyllgor
y dylai ei olynydd drafod ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor yn
gynnar yn y Pumed Cynulliad ac y dylai fonitro'r camau a gymerir ynghylch
materion perthnasol yn gyson.
Bu’r Pwyllgor yn
trafod ymateb Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2016, gan nodi’r wybodaeth
ddiweddaraf a ddaeth i law a’r bwriad i gynnal adolygiad ar y cyd rhwng Swyddfa
Archwilio Cymru a’r Arolygiad Gofal Iechyd yn y gwanwyn yn 2017. Archwiliodd y
Pwyllgor y fframwaith uwchgyfeirio ac ymyrraeth yn ystod yr ymchwiliad i
Weithredu Deddf Cyllid GIG (Cymru) 2014.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/08/2016
Dogfennau
- Llythyr gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru - 19 Gorffennaf 2017 (Saesneg yn unig) PDF 192 KB
- Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i'r Cadeirydd - 9 Ionwar 2017 PDF 441 KB
- Llythyr gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru - 12 Rhagfyr 2016 PDF 169 KB
- Llythyr gan Lywodraeth Cymru i'r Cadeirydd - 21 Hydref 2016 PDF 223 KB
- Llythyr gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru - 10 Hydref 2016 PDF 108 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru - 23 Medi 2016 PDF 146 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd i Lywodraeth Cymru - 23 Medi 2016 PDF 149 KB
- Sylwadau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar yr ymatebion i'r adroddiad - 30 Mehefin 2016 PDF 112 KB