Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/01/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau a’r tystion i'r cyfarfod, gan gynnwys Siân Gwenllian AC
fel Aelod newydd o'r Pwyllgor Cyllid. 1.2
Diolchodd y
Cadeirydd i Rhun ap Iorwerth am ei gyfraniad at y Pwyllgor. 1.3
Roedd David Melding
AC yn bresennol ar ran Nick Ramsay AC. |
|
(09:00) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2020 Cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2020 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Nodwyd y
cofnodion a'r papur. |
|
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch goblygiadau ariannol y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) – 14 Ionawr 2020 Dogfennau ategol: |
||
(09:00-10.00) |
Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 1 Jon Rae,
Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Y Cynghorydd
Anthony Hunt, llefarydd Cyllid ac Adnoddau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Papur 1 – Tystiolaeth
ysgrifenedig gan y Comisiwn Etholiadol Papur 2 –
Tystiolaeth ysgrifenedig gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Briff ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cafodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru; y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd Cyllid ac Adnoddau, Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru, a Daniel Hurford, Pennaeth Polisi, Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru, o ran y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). |
|
(10:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
|
(10:00-10:15) |
Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(10:25-10:40) |
Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol: Trafod yr ymatebion i’r ymgynghoriad a’r tystion Papur 3 – Papur
eglurhaol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd y
Pwyllgor yr ymatebion i’r ymgynghoriad a chytuno ar ei restr o dystion ar gyfer
sesiynau tystiolaeth lafar. |
|
(10:40-10:50) |
Taliadau cadw yn y sector adeiladu: y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad Cofnodion: 7.1 Cafodd y
Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am hynt yr ymchwiliad a chytunodd i ysgrifennu
at y Gweinidog gyda'i ganfyddiadau. |