Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/03/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.

 

1.2 Cymerodd yr aelodau canlynol o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ran yn eitemau 5 a 7, yn unol â Rheol Sefydlog 17.49:

-        David Rees AS

-        Huw Irranca-Davies AS

-        Nick Ramsay AS

-        David Rowlands AS

 

 

(09.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2021.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

PTN 1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ynghylch Cynnig Cyllideb Atodol diwygiedig – 2 Mawrth 2021

Dogfennau ategol:

2.2

PTN 2 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ynghylch cyllid a ddyrannwyd i gefnogi busnes yn ystod y pandemig – 2 Mawrth 2021

Dogfennau ategol:

2.3

PTN 3 - Llythyr gan Bwyllgor Cyllid a Chyfansoddiad Senedd yr Alban at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys: Cyllideb Llywodraeth yr Alban 2021-22 – 4 Mawrth 2021

Dogfennau ategol:

2.4

PTN 4 - Llythyr ar y cyd gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, a'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ynghylch porthladdoedd rhydd yng Nghymru – 4 Chwefror 2021

Dogfennau ategol:

2.5

PTN 5 - Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyllid - 5 Mawrth 2021

Dogfennau ategol:

(09.00-10.20)

3.

Gwaith Gwaddol y Pwyllgor Cyllid: Sesiwn dystiolaeth

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys

Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid

Debra Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid Strategol Llywodraeth Leol

Marcella Maxwell, Dirprwy Gyfarwyddwr Caffael Masnachol a Strategaeth Grwp

 

Papurau ategol:

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth ar waith gwaddol y Pwyllgor Cyllid gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys; Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid; Debra Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid Strategol Llywodraeth Leol; a Marcella Maxwell, Dirprwy Gyfarwyddwr Caffael Masnachol a Strategaeth Grŵp.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd i ddarparu:

 

-        Rhagor o wybodaeth trwy'r Gweinidog Addysg ynghylch dyraniad cyllid ar gyfer ymchwil mewn Sefydliadau Addysg Uwch.

 

(10.20-10.30)

4.

Offerynnau Statudol ym maes treth: Sesiwn dystiolaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth ar yr offeryn statudol ym maes treth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys; Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid; Debra Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid Strategol Llywodraeth Leol; a Marcella Maxwell, Dirprwy Gyfarwyddwr Caffael Masnachol a Strategaeth Grŵp.

 

4.2 Diolchodd y Cadeirydd i'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd a'i swyddogion am y ffordd adeiladol y maent wedi ymgysylltu â'r Pwyllgor dros gyfnod y Bumed Senedd.

 

(11.00-12.00)

5.

Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Sesiwn dystiolaeth

Y Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Geth Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfansoddiad, Swyddfa Cymru

 

Papurau ategol:

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Croesawu’r Aelodau o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a wahoddwyd i’r cyfarfod ar gyfer yr eitem gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

 

5.2 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru; a Geth Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfansoddiad a Pholisi, Swyddfa Cymru.

 

5.3 Cytunodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru i wneud yr hyn a ganlyn:

 

-        Darparu rhagor o wybodaeth am statws Gwynedd fel ardal categori 3 mewn perthynas â'r Gronfa Codi’r Gwastad.

-        Siarad â Thrysorlys Ei Mawrhydi ynghylch rheolaeth Trysorlys Ei Mawrhydi o ran faint o arian y gall Llywodraeth Cymru ei drosglwyddo o’r ‘grant bloc’ i’r flwyddyn ariannol nesaf.

-        Archwilio honiadau Llywodraeth Cymru nad yw'r mecanwaith ar gyfer datganoli cymhwysedd i gyflwyno trethi newydd yng Nghymru yn addas at y diben gyda Thrysorlys EM.

 

5.4 Diolchodd y Cadeirydd i aelodau presennol a chyn-aelodau'r Pwyllgor Cyllid, ac i'r holl randdeiliaid a thystion, am eu cyfraniadau gwerthfawr dros gyfnod y Bumed Senedd.

 

(12.00)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 17 Mawrth 2021

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.00-12.10)

7.

Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.10-12.20)

8.

Gwaith Gwaddol y Pwyllgor Cyllid: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.20-12.25)

9.

Offerynnau Statudol ym maes treth: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, gan gytuno i gyflwyno adroddiad ar yr offeryn statudol.

 

(12.25-12.50)

10.

Bil Archwilio Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft: Trafod yr adroddiad drafft

Papurau ategol:

FIN(5)-08-21 P3 - Adroddiad drafft ar y trafodaethau ynghylch yr ymgynghoriad ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft

FIN(5)-08-21 P4 - Bil Archwiliad Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft

FIN(5)-08-21 P5 - Nodiadau Esboniadol

FIN(5)-08-21 P6 - Nodyn Cyngor Cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.