Negodiadau ynghylch y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol

Parodrwydd yng Nghymru ar gyfer diwedd y cyfnod pontio

Cefndir

Yn dilyn ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd ar 31 Rhagfyr 2019, cytunodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol (“y Pwyllgor”) i drafod paratoadau yng Nghymru ar gyfer diwedd y cyfnod pontio, drwy graffu ar Lywodraeth Cymru, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a thynnu sylw at faterion sy'n benodol i Gymru.

Roedd y gwaith hwn yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn:

-       Camau gweithredu Llywodraeth Cymru i baratoi Cymru ar gyfer diwedd y cyfnod pontio;

-       Parodrwydd sectorau economaidd allweddol yng Nghymru;

-       Goblygiadau ar gyfer parodrwydd sy'n deillio o negodi cytundebau rhyngwladol y DU, gan gynnwys cytundeb (neu gytundebau) ynghylch y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol, cytundebau masnach rydd sylweddol eraill (e.e. rhwng y DU ac UDA, rhwng y DU a Japan, rhwng y DU ac Awstralia, rhwng y DU a Seland Newydd ac ati), a rhaglen parhad y cytundeb masnach;

-       Cytundebau rhynglywodraethol yn y DU sy'n ymwneud â diwedd y cyfnod pontio, gan gynnwys y rhaglen fframweithiau cyffredin.

 

Ymgynghoriad

Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd: Parodrwydd yng Nghymru ar gyfer diwedd y cyfnod pontio

 

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru i baratoi Cymru ar gyfer diwedd y cyfnod pontio

Cefndir

Er mwyn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei pharatoadau ar gyfer diwedd y cyfnod pontio, cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau craffu rheolaidd gyda’r Prif Weinidog, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, a’r Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol.

Casglu tystiolaeth

Ym mis Awst 2020, lansiodd y Pwyllgor arolwg i barodrwydd ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. Llywiodd canlyniadau'r arolwg (PDF, 129KB) waith y Pwyllgor yn y maes hwn.

Gallwch weld fideo sy'n crynhoi canfyddiadau'r arolwg isod.

YouTube-Here https://www.youtube.com/embed/dqOmq-E_5z4

 

Parodrwydd sectorau economaidd allweddol yng Nghymru

Cefndir

Gwnaeth y gwaith hwn adeiladu ar waith dilynol y Pwyllgor ar barodrwydd Brexit, a gafodd ei gwblhau ym mis Ionawr 2020.

 

Cytundebau rhyngwladol a masnach

Cefndir

Roedd y gwaith hwn yn edrych ar y goblygiadau ar gyfer parodrwydd sy'n deillio o negodi cytundebau rhyngwladol y DU, gan gynnwys cytundeb (neu gytundebau) ynghylch y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol, cytundebau masnach rydd sylweddol eraill (e.e. rhwng y DU ac UDA, rhwng y DU a Japan, rhwng y DU ac Awstralia, rhwng y DU a Seland Newydd), a rhaglen parhad y cytundeb masnach;

Fe adeiladodd ar waith blaenorol y Pwyllgor, gan gynnwys yr adroddiadau a ganlyn:

-        Y Cytundeb Ymadael: Y Goblygiadau i Gymru (Ionawr 2020) (Ionawr 2020);

-        Perthynas Cymru ag Ewrop a'r byd yn y dyfodol (Chwefror 2019);

-        Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol – Rhan un: safbwynt o Gymru (Mawrth 2018);

-        Y Goblygiadau i Gymru yn Sgil Gadael yr Undeb Ewropeaidd (Ionawr 2017).

 

Casglu tystiolaeth

Yn ei gyfarfod ar 20 Mai 2020, rhoddodd yr Athro Catherine Barnard dystiolaeth i'r Pwyllgor ar opsiynau posibl yn y dyfodol ar gyfer y berthynas rhwng y DU a'r UE. Amlinellwyd y rhain yn ei phapur ar senarios y dyfodol ar ôl Brexit [Saesneg yn unig] (20 Ebrill 2020) (PDF, 425KB), lle’r oedd yn nodi'r opsiynau posibl yn y dyfodol ar gyfer y berthynas rhwng y DU a'r UE, gan gynnwys cytundeb masnach yn y dyfodol, dim cytundeb masnach yn y dyfodol (masnachu ar delerau Sefydliad Masnach y Byd), casgliad cyfres o gytundebau bach rhwng y DU a’r UE a phosibilrwydd ymestyn y cyfnod pontio y tu hwnt i 31 Rhagfyr 2020.

 

Cytundebau rhynglywodraethol yn y DU

Cefndir

Bydd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar gysylltiadau rhynglywodraethol, gan adeiladu ar waith blaenorol y Pwyllgor yn y meysydd a ganlyn:

-       Cynigion ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

-       Rhaglen fframweithiau polisi cyffredin

-       Bil Marchnad Fewnol y DU 2020

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/04/2020

Dogfennau

Ymgynghoriadau