Cynigion ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Y cefndir

Yn dilyn ymlaen o'i ymchwiliad i bolisi rhanbarthol - beth nesaf i Gymru?, ymchwiliodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i gynigion Llywodraeth y DU ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Y bwriad oedd i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU gymryd lle'r Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd (ESIF) ar ôl Brexit.

Casglu tystiolaeth

Ar 2 Mai 2019 ysgrifennodd y Cadeirydd at Metro Mayors, a Phartneriaethau Menter Lleol (LEPs) yn Lloegr; Pwyllgorau Dethol San Steffan; a chymheiriaid yn y gweinyddiaethau datganoledig yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ar ran y Pwyllgor, i ofyn am eu barn ar y cynigion er mwyn nodi unrhyw feysydd o ddiddordeb ar y cyd posibl.

Roedd y cwestiynau a ofynnwyd i'r rhanddeiliaid yn cynnwys:

  • Beth yw'r egwyddorion a ddylai fod yn sail i Gronfa Ffyniant Gyffredin newydd y DU?
  • Sut y dylid gwneud dyraniadau cyllid fel rhan o unrhyw gronfa yn y dyfodol?
  • Sut y dylai unrhyw gronfa yn y dyfodol weithredu i ystyried y gwahanol setliadau datganoledig ar draws y Deyrnas Unedig?
  • Pa ymgysylltiad ydych chi wedi'i gael â Llywodraeth y DU mewn perthynas â Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU?
  • A oes unrhyw faterion eraill mewn perthynas â disodli cyllid ESIF ar ôl Brexit yr hoffech eu dwyn i'n sylw?

Cafodd y Pwyllgor gyfanswm o 16 o ymatebion (PDF,4MB), sydd wedi’u cyhoeddi isod.

Gwaith pellach

Ar 25 Mehefin 2020, ysgrifennodd (PDF, 218KB) y Cadeirydd at y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i ofyn am ymateb i nifer o gwestiynau ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin.

Ymatebodd (PDF, 290 KB) y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd ar 20 Gorffennaf 2020.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/07/2019

Dogfennau