Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/05/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

 

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AC a Neil Hamilton AC.

 

2.

Papur(au) i'w nodi

Minutes of the meeting held on 1 May 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

 

2.1

PTN1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd - Cyllidebau atodol 2019-20 - 30 Ebrill 2019.

Dogfennau ategol:

2.2

PTN2 - Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit - Bil Deddfwriaeth (Cymru) - Ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor - 3 Mai 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit mewn ymateb i'w lythyr.

 

(09.20-10.20)

3.

Y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru): sesiwn dystiolaeth

Julie Morgan AC, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol 

Karen Cornish, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Plant a Theuluoedd

Sarah Canning, Pennaeth y Gangen Deddfwriaeth, Ymchwil a Rhianta

 

Papur 1 - Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – 5 Ebrill 2019

Papur 2 - Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – 25 Ebrill 2019

Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

Briff Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Julie Morgan AC, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Karen Cornish, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Plant a Theuluoedd; a Sarah Canning, Pennaeth y Gangen Deddfwriaeth, Ymchwil a Rhianta, ar oblygiadau ariannol y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Rhesymol) (Cymru).

 

3.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth ar sut yr amcangyfrifwyd nifer yr achosion o gosb resymol a adroddwyd i'r heddlu a sut y mae hyn yn gysylltiedig â nifer yr erlyniadau yng Nghymru bob blwyddyn.

(10.20)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 5, 7-9 ac ar gyfer dechrau'r cyfarfod ar 15 Mai 2019

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.20-10.30)

5.

Y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru): trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.40-11.40)

6.

Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 3

David Ward, Prif Weithredwr, Grŵp Tirion 

Howel Jones, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Rhaglenni a Phrosiectau, Partneriaethau Lleol

Rosie Pearson, Cyfarwyddwr Corfforaethol Datblygu Busnes, a Chyfarwyddwr Rhaglen PPP a PFI, Partneriaethau Lleol

 

Papur 3 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Grŵp Tirion

Briff Ymchwil

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan David Ward, Prif Weithredwr, Grŵp Tirion; Howel Jones, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Rhaglenni a Phrosiectau, Partneriaethau Lleol; a Rosie Pearson, Cyfarwyddwr Corfforaethol Datblygu Busnes, a Chyfarwyddwr Rhaglen PPP a PFI, Partneriaethau Lleol, ar ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru.

 

(11.40-11.50)

7.

Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.50-12.05)

8.

Taliadau cadw yn y diwydiant adeiladu

Papur 4 - Taliadau cadw yn y diwydiant adeiladu

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

 

(12.05-12.20)

9.

Comisiwn y Cynulliad - Diweddariad ar y Cynllun Ymadael Gwirfoddol a Llacio Cap y Sefydliad

Papur 5 – Llythyr gan y Comisiwn y Cynulliad - Diweddariad ar y Cynllun Ymadael Gwirfoddol a Llacio Cap y Sefydliad - 3 Mai 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gomisiwn y Cynulliad ynghylch y diweddariad ar y cynllun ymadael gwirfoddol a llacio cap y sefydliad.