Agenda a Chofnodion
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd - Dydd Llun, 11 Mai 2020 10.00
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 11/05/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
10:00 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cadarnhaodd y Cadeirydd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19,
ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn
amddiffyn iechyd y cyhoedd. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
10:00-10:05 |
Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
SL(5)540 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 CLA(5)-14-20 –
Papur 1 – Adroddiad CLA(5)-14-20 –
Papur 2 – Rheoliadau CLA(5)-14-20 –
Papur 3 – Memorandwm
Esboniadol CLA(5)-14-20 –
Papur 4 – Llythyr gan y
Prif Weinidog i’r Llywydd, 24 Ebrill 2020 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb
Llywodraeth Cymru pan ddaw i law. |
||
10:05-10:10 |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 ond sydd â goblygiadau o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE |
|
SL(5)542 - Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Rhanddirymiad Tyfu Amrywiaeth o Gnydau) (Cymru) 2020 CLA(5)-14-20 –
Papur 5 – Adroddiad CLA(5)-14-20 – Papur 6 – Rheoliadau CLA(5)-14-20 –
Papur 7 – Memorandwm
Esboniadol CLA(5)-14-20 –
Papur 8 – Llythyr gan
Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 29 Ebrill 2020 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd i dynnu sylw at faterion sy’n codi o ganlyniad i ymadawiad
y DU â'r UE. |
||
10:10-10:15 |
Papur(au) i’w nodi |
|
Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (Diwygiadau Canlyniadol) 2020 CLA(5)-14-20 –
Papur 9 – Llythyr gan
Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 4 Mai 2020 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd,
Ynni a Materion Gwledig, gan nodi y byddai'n trafod y Memorandwm Cydsyniad
Offeryn Statudol yn y cyfarfod nesaf. |
||
10:15 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
10:15-10:30 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth - adroddiad drafft CLA(5)-14-20 –
Papur 10 - Adroddiad
drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd
arno. Nododd yr Aelodau y byddai'r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad
cau gofynnol, sef 14 Mai 2020. |
|
10:30-11:00 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Pysgodfeydd - adroddiad drafft CLA(5)-14-20 –
Papur 11 – Adroddiad
drafft CLA(5)-14-20 –
Papur 12 – Llythyr gan
Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 1 Mai 2020 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i drafod
drafft pellach yn y cyfarfod nesaf. |
|
11:00-11:20 |
Gwneud i Gyfiawnder Weithio yng Nghymru - trafod cynllunio’r flaenraglen waith CLA(5)-14-20 –
Papur 13 – Cynllunio’r
flaenraglen waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am yr
ymchwiliad cyfredol a chytunodd i’w drafod ymhellach ar ôl i’r ymgynghoriad
gau. |