Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/06/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

10:00

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

10:00-10:05

2.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

2.1

SL(5)556 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

CLA(5)-19-20 – Papur 1 – Adroddiad

CLA(5)-19-20 – Papur 2 – Rheoliadau

CLA(5)-19-20 – Papur 3 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-19-20 – Papur 4 Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at y Llywydd, 8 Mehefin 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

10:05-10:10

3.

Papur(au) i’w nodi:

3.1

Llythyr gan y Prif Weinidog: Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020

CLA(5)-19-20 – Papur 5 – Llythyr gan Brif Weinidog Cymru, 15 Mehefin 2020

CLA(5)-19-20 – Papur 6 – Datganiad Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.

 

3.2

Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Rheoliadau drafft mewn perthynas â Chofrestr Etholiadol 2020

CLA(5)-19-20 – Papur 7 – Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, 16 Mehefin 2020

CLA(5)-19-20 – Papur 8 – Datganiad Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i godi pryderon mewn perthynas â'r amserlenni arfaethedig ar gyfer gwneud y rheoliadau.

 

3.3

Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Canllawiau ar ddrafftio deddfwriaeth

CLA(5)-19-20 – Papur 9 – Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol, 17 Mehefin 2020

CLA(5)-19-20 – Papur 10 Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019: Canllawiau ar baratoi deddfwriaeth

CLA(5)-19-20 – Papur 11 Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020: Canllawiau ar oblygiadau drafftio deddfwriaethol Rhan 2

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.

 

10:10

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

10:10-10:40

5.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd - trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-19-20 – Papur 12 – Adroddiad drafft

CLA(5)-19-20 – Papur 13 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 14 Mai 2020 (Diwygiedig)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i drafod drafft arall yn y cyfarfod nesaf.

 

10:40-10:50

6.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Amaethyddiaeth

CLA(5)-19-20 – Papur 14 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar y Bil Amaethyddiaeth a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.