Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks  Dirprwy Glerc: Sian Giddins

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(14.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Nathan Gill. Ni chafwyd dirprwy ar ei ran.

1.2 Croesawodd y Cadeirydd Dai Lloyd i'w gyfarfod cyntaf fel Aelod o'r Pwyllgor.

1.3 Diolchodd y Cadeirydd Dafydd Elis-Thomas am ei waith ar y Pwyllgor hwn a'r Pwyllgor blaenorol y Pedwerydd Cynulliad.

 

 

(14.30 - 14.35)

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

CLA(5)-09-16 – Papur 1 - Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

Dogfennau ategol:

2.1

SL(5)019 - Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) (Diwygio) 2016

Cofnodion:

2.1a Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

(14.35 - 14.40)

3.

Papur(au) i'w nodi

3.1

Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru): Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

CLA(5)-09-16 – Papur 2 - Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, 18 Hydref 2016

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

3.2

Bil Cymru: Gohebiaeth gan y Llywydd i Arglwyddi Cymru

CLA(5)-09-16 – Papur 3 – Gohebiaeth gan y Llywydd at Arglwyddi o Gymru, 20 Hydref 2016

CLA(5)-09-16 – Papur 4 – Papur brifio ar welliannau drafft y Llywydd, 20 Hydref 2016 [Saesneg yn unig]

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

3.3

Bil Cymru: Gohebiaeth gan Brif Weinidog Cymru at Ysgrifennydd Gwladol Cymru

CLA(5)-09-16 - Papur 5 - Gohebiaeth gan Brif Weinidog Cymru at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, 20 Hydref 2016 [Saesneg yn unig]

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

3.4

Bil Cymru: Adroddiad Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoleiddio Tŷ'r Arglwyddi

CLA(5)-09-16 – Papur 6 – Adroddiad Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoleiddio ar Bil Cymru [Saesneg yn unig]

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4a Nododd y Pwyllgor yr adroddiad.

 

(14.40)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

(ix) lle mae unrhyw fater sy’n ymwneud â busnes mewnol y Pwyllgor, neu fusnes mewnol y Cynulliad, i gael ei drafod.

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.40 - 15.10)

5.

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Ymchwiliad gweithio rhyng-Lywodraeth a rhyng-Seneddol

CLA(5)-09-16 – Papur 7 - Briff y Gwasanaeth Ymchwil [Saesneg yn unig]

CLA(5)-09-16 – Papur 8 - Cylch gorchwyl [Saesneg yn unig]

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y cylch gorchwyl ar gyfer Ymchwiliad gweithio rhyng-Lywodraeth a rhyng-Seneddol a chytunodd i drafod y mater eto yn ddiweddarach.