Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
Deisebau newydd |
|
P05-840 Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) a phob Awdurdod Lleol arall Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd
Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n
Gynghorydd ar Gyngor Caerdydd ar hyn o bryd. Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno ar y camau a ganlyn:
o
cheisio
eglurhad ar sut y bydd y £30 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer Gofal
Cymdeithasol a nodir yn y gyllideb ddrafft yn cael ei ddyrannu a'i ddarparu. |
|
P-05-841 Cynnwys cynnig amgen ‘Pont Benidgeidfran’ ar gyfer trydedd bont dros y Fenai yn y broses asesu ffurfiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu yn ôl at
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am ei farn am sylwadau
manwl y deisebydd ac a yw'n barod i gynnwys cynnig y deisebydd yn ffurfiol ochr
yn ochr â'r opsiynau gwreiddiol yn ystod dadansoddiad arall o strwythur y bont. |
|
P-05-842 Rhowch lais i bobl ifanc yn y broses o gomisiynu gwasanaethau lleol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd
y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu sylwadau'r deisebwyr
a gofyn iddo am ymateb manwl. |
|
P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno ar y camau a ganlyn:
|
|
P-05-844 Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot ar unwaith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu at Ysgrifennydd y
Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn am ei barn am y
manteision o gyflwyno dull i sicrhau y dylai ceisiadau i newid cynnwys CDLl,
rhwng adolygiadau statudol, gael eu cofnodi a'u hystyried yn briodol. Nododd y Pwyllgor y bydd, efallai, am gynnal
sesiwn dystiolaeth ar hyn a materion cynllunio eraill yn y dyfodol pan fydd
wedi trafod yr ymateb a geir. |
|
P-05-845 Rhowch Derfyn ar Wrthdaro Buddiant yng Nghyfansoddiad Awdurdodau Lleol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu at y canlynol:
·
Sefydliad
Cynllunio Trefol Brenhinol i ofyn am ei farn am y materion a godwyd yn y
ddeiseb. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan nifer o randdeiliaid a chytuno i ysgrifennu at y
Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol i wneud y canlynol:
|
|
P-05-825 Diogelu ysgyfaint plant rhag llygredd niweidiol tra maent yn yr ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Cymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru a'r deisebydd a chytuno i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Amgylchedd i
wneud y canlynol:
·
gofyn a
fyddai'r awgrymiadau a wnaed yn helpu i lywio Cynllun Aer Glân i Gymru. |
|
P-05-824 Ffordd Osgoi Derwen Brimmon y Drenewydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth, Cyngor Powys a'r deisebwyr a chytuno i
ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i
ofyn iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ar ôl iddo ymateb i Gyngor
Sir Powys. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 7.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitem 5 Cofnodion: Derbyniwyd
y cynnig. |
|
Trafodaeth ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ei Flaenraglen Waith a chytuno ar amserlen o sesiynau tystiolaeth yn
ystod mis Tachwedd, ac i ailedrych ar y Flaenraglen Waith yn ddiweddarach yn
nhymor yr hydref. |