P-05-844 Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot ar unwaith
P-05-844 Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot ar unwaith
P-05-844 Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot ar
unwaith
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Emma Eynon, ar ôl
casglu 56 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Rydym ni
sydd wedi llofnodi isod yn galw ar i Lywodraeth Cymru drefnu adolygiad o'r Cynllun
Datblygu Lleol ar gyfer Ardal Castell-nedd Port Talbot, a hynny ar unwaith. Mae
angen newidiadau brys er mwyn adolygu'r canllawiau ar gyfer ardaloedd gwledig,
yn benodol ynghylch Adfywio Cymoedd Cymru. Fel trigolion lleol, nid ydym yn
teimlo bod digon o fesurau ar waith i gadw ein cymunedau rhag datblygiadau
masnachol negyddol sy'n effeithio'n ddifrifol iawn ar ardaloedd preswyl. Mae
angen newid i orfodi polisïau Teithio Llesol, diogelu anheddau preswyl a Deddf
Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ni ddarparwyd yn ddigonol ar
gyfer ein cymuned ym Mlaengwrach yn y Cynllun Datblygu Lleol a gofynnwn i gamau
gael eu cymryd yn gynt na'r adolygiad a drefnwyd ar gyfer 2020. Gofynnwn am y
cyfle, o leiaf, i allu ychwanegu eithriadau a chanllawiau i'r Cynllun Datblygu
Lleol ynghylch datblygiadau sy'n arwain at gryn lawer o draffig, megis
gorsafoedd petrol a bwytai min ffordd.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 11/12/2018
penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Bu'r Pwyllgor yn trafod
gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd. Daeth yr Aelodau i'r casgliad y
dylai pob Awdurdod Cynllunio Lleol wneud penderfyniadau ynghylch a ddylid adolygu
cynllun datblygu lleol ai peidio ac, ar y sail honno, cytunodd y Pwyllgor i
gau'r ddeiseb.
Gellir gweld manylion
llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig
ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 23/10/2018.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
·
Castell-nedd
·
Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r
Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/10/2018