Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-794 Gostwng yr Oedran Pleidleisio i Un ar Bymtheg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am
gyhoeddi'r ymgynghoriad cyhoeddus ar ddiwygio etholiadol ac annog y deisebwyr a
chefnogwyr eraill i gyflwyno eu barn ar hyn. |
|
P-05-795 Achosi Niwsans neu Aflonyddwch ar safleoedd y GIG Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb
pellach gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol cyn
ystyried unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb. |
|
P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn. |
|
P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn
ôl at y Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i
rannu'r wybodaeth a ddarparwyd gan y deisebwyr a gofyn a fyddai'r data hirdymor
mwy diweddar y cyfeiriwyd ato yn rhan o unrhyw ystyriaeth bellach gan Grŵp
Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, cyn ystyried a ddylid cymryd tystiolaeth
lafar ar y mater. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am
ddiweddariad pellach gan y deisebwyr mewn perthynas â'u gohebiaeth â chwmnïau
cludiant cyn ystyried unrhyw gamau pellach. |
|
P-05-722 Diogelu Anghenion Addysgol Arbennig Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r cynnig blaenorol i
ymgysylltu gan Gyngor Sir Castell-nedd Port Talbot, ac am na dderbyniwyd ymateb
yn ddiweddar gan y deisebydd. |
|
P-05-787 Achub Cenhedlaeth y Dyfodol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yng ngoleuni boddhad y deisebydd gyda'r
wybodaeth a ddarparwyd gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a diolch iddo
am ei ymgysylltiad â'r broses ddeisebau. |
|
P-05-742 Peidiwch â gadael i Forsythia gau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn
am y wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth bresennol yng Nghanolfan Ieuenctid
Forsythia ac a ydynt wedi bod yn rhan o drafodaethau gyda'r Cyngor ynghylch
dyfodol y Ganolfan. |
|
P-05-766 Dylid Gwneud Opsiwn Fegan yn Orfodol Mewn Ffreuturiau Cyhoeddus Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb am ei bod yn anodd gweld sut y gall y
Pwyllgor ei dwyn ymlaen heb gyswllt gan y deisebydd. |
|
P-05-764 Gwell Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Oedolion Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor gefndir y ddeiseb a chytunodd i ystyried y materion a godwyd gan y
ddeiseb fel rhan o'i sesiwn dystiolaeth a gaiff ei chynnal cyn bo hir gydag
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddeiseb
P-05-736 i Ddarparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Mwy Hygyrch. |
|
P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a
ganlyn:
|
|
P-05-790 Mynd i'r afael â chysgu ar y stryd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i wneud y Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ymwybodol o'r ddeiseb fel rhan o'i Ymchwiliad
presennol i gysgu allan yng Nghymru, ac anfon copi o adroddiad y Pwyllgor hwnnw
at y deisebydd unwaith y bydd ar gael. |
|
P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i anfon sylwadau'r deisebydd at
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a gofyn am ragor
o fanylion am yr astudiaeth ymchwil a gwaith arolygu asesiadau stoc, gan
gynnwys pwy fydd yn ei gynnal a'r amserlenni ar gyfer y canlyniadau. |
|
Sesiwn Dystiolaeth - P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant •
Paul Apreda, Deisebydd •
Dr Sue Whitcombe, Seicolegydd Siartredig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i wahodd y
Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant a CAFCASS i roi tystiolaeth mewn cyfarfod
yn y dyfodol, ac ystyried casglu rhagor o dystiolaeth am y ddeiseb fel rhan o
drafodaeth yn y dyfodol am flaenraglen waith y Pwyllgor. |