P-05-722 Diogelu Anghenion Addysgol Arbennig
P-05-722 Diogelu Anghenion Addysgol Arbennig
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Nicola Butterfield, ar
ôl casglu 553 llofnod bapur.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru
i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwariant ar y ddarpariaeth anghenion
addysgol arbennig yn cael ei glustnodi, gan gydnabod fod hwn yn fuddsoddiad ym
mhlant Cymru, ac y dylai awdurdodau lleol gael eu cyfarwyddo i sicrhau bod
lefelau digonol o gyllid ar gael fel y gall plant sydd angen gwasanaeth o’r
fath fyw bywydau hapus a llawn, ac nad yw eu teuluoedd yn gorfod wynebu’r ofn o
gystadlu â’i gilydd am leoedd.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 12/07/2016
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb
yng ngoleuni'r cynnig blaenorol i ymgysylltu gan Gyngor Sir Castell-nedd Port
Talbot, ac am na dderbyniwyd ymateb yn ddiweddar gan y deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch
trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab
Cyfarfodydd uchod.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Aberafan
·
Gorllewin De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 29/11/2016