Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/10/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-898 Dylid gwahardd defnyddio byrddau A yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gasglu tystiolaeth ychwanegol arni gan elusennau, cynrychiolwyr busnesau a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

2.2

P-05-899 Bysiau i bobl nid er elw

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am ragor o wybodaeth am y newidiadau y mae'n bwriadu eu cyflwyno drwy'r Bil Trafnidiaeth Gyhoeddus, yn enwedig ynghylch masnachfreinio a phwerau i awdurdodau lleol redeg gwasanaethau bysiau, a'r amserlen a gynlluniwyd ar gyfer cyflwyno'r Bil.

 

2.3

P-05-900 Ymchwilio i’r ffordd y mae rhieni’n cael eu trin gan y gwasanaethau cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafodaeth gychwynnol ar y ddeiseb tan y cyfarfod nesaf er mwyn galluogi Aelodau i drafod gwybodaeth ychwanegol a gafwyd gan y deisebydd yn llawn.

 

 

2.4

P-05-901 Gwahardd Gwerthu Ffwr Anifeiliaid yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am safbwyntiau’r deisebwyr o ran yr ymateb a gafwyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig cyn trafod a ddylid cymryd camau pellach ynglŷn â'r ddeiseb.

 

2.5

P-05-902 Iechyd Meddwl Tadau (Iechyd Meddwl Tadau Newydd)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog i ofyn am ymateb i awgrym y deisebydd y dylai tadau newydd gael, neu gael cynnig, asesiad o’u hanghenion iechyd meddwl a chymorth fel rhan o wasanaethau iechyd meddwl amenedigol.

 

2.6

P-05-903 Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cyngor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn am ei hymateb i'r cynnig y dylai fod hawl i’r cyhoedd a'r wasg recordio ac adrodd ar gyfarfodydd cyngor, gan gynnwys y rhai a gynhelir gan gynghorau tref a chymuned.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.7

P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth ychwanegol a chytunodd i aros i Vertex Pharmaceuticals gyflwyno tystiolaeth yn gysylltiedig ag Orkambi i Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, y mae'r Pwyllgor yn deall ei fod ar fin digwydd, cyn gofyn am ragor o wybodaeth.

 

 

3.2

P-05-869 Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth ychwanegol a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i:

  • ofyn am eglurhad o aelodaeth, rôl ac amserlen Is-bwyllgor y Cabinet a sefydlwyd ers y datganiad argyfwng hinsawdd; a
  • gofyn pa gefnogaeth a chyllid y byddai Llywodraeth Cymru yn fodlon eu cyfrannu i sefydlu a hwyluso cynulliad dinasyddion ar newid hinsawdd.

 

 

3.3

P-05-891 Mae angen dod â phrofion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ar gyfer plant mor ifanc â 6 oed i ben ar unwaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth ychwanegol a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn am ei hymateb i'r pryderon a fynegwyd [?]  gan y deisebydd ynghylch yr angen i sicrhau bod plant yn gyfarwydd â fformat y profion a'r cwestiynau, yn sgil cyflwyno asesiadau personol ar-lein yn raddol.

 

4.

Sesiwn dystiolaeth 1: P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)

·         Tom Rippeth, deisebydd

·         Mike Webb, deisebydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

O dan Reol Sefydlog 17.24A gwnaeth Jack Sargeant AC ddatganiad ei fod wedi cefnogi'r Llwybr Coch yn y gorffennol.

 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Tom Rippeth, ar ran y deisebwyr, a Mike Webb, a oedd yn cynrychioli Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru.

 

 

5.

Sesiwn dystiolaeth 2: P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)

·         Iwan Prys Jones, Rheolwr Rhaglen, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

·         Stephen Jones, Prif Swyddog Gwasanaethau Stryd a Chludiant, Cyngor Sir y Fflint

·         Cyng Carolyn Thomas, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad, Cyngor Sir y Fflint

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chyngor Sir y Fflint.

 

Cytunodd Cyngor Sir y Fflint i roi copi o adroddiad arolygu diweddaraf Pont Sir y Fflint i'r Pwyllgor.

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitem 7

7.

Trafod y sesiwn dystiolaeth flaenorol

P-05-886 Stop the Red Route (A55/A494 corridor)

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y sesiynau tystiolaeth blaenorol a chytunodd i ysgrifennu at:

  • Amrywiaeth o randdeiliaid amgylcheddol a busnes eraill i ofyn am dystiolaeth ychwanegol ar y ddeiseb a'r Llwybr Coch arfaethedig, a
  • Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn rhagor o gwestiynau yn ymwneud â datblygu cynlluniau manwl ynghylch llwybr y ffordd newydd a mesurau lliniaru amgylcheddol arfaethedig.