Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 25/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9:00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Dogfennau ategol: Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan Neil McEvoy a Jack Sargeant. Roedd Mike Hedges yn bresennol
yn lle Jack Sargeant. Croesawodd y
Cadeirydd Michelle Brown i’w chyfarfod cyntaf fel aelod o’r Pwyllgor Deisebau. |
|
Sesiwn dystiolaeth: Cynllunio ·
Julie James AC - Y
Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ·
Neil Hemington – Pennaeth Cynllunio, Llywodraeth Cymru ·
Stephen Phipps - Swyddog Prosiectau llywodraeth Leol, Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol: |
||
P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad - dylid adolygu TAN 1 Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Neil Hemington a
Stephen Phipps. Cytunodd y
Pwyllgor i grwpio'r ddeiseb hon gyda P-05-881 Trwsio ein system gynllunio i'w thrafod yn y dyfodol, a dychwelyd at y
ddwy ddeiseb unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyhoeddiad am y camau
nesaf mewn perthynas â'i hadolygiad o ddarparu tai drwy'r system gynllunio. |
||
P-05-881 Trwsio ein system gynllunio Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Neil Hemington a
Stephen Phipps. Cytunodd y
Pwyllgor i grwpio'r ddeiseb hon gyda P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad – dylid
adolygu TAN 1 i'w
thrafod yn y dyfodol, a dychwelyd at y ddwy ddeiseb unwaith y bydd Llywodraeth
Cymru wedi gwneud cyhoeddiad am y camau nesaf mewn perthynas â'i hadolygiad o
ddarparu tai drwy'r system gynllunio. |
||
P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Neil Hemington a
Stephen Phipps. Cytunodd y
Pwyllgor i ymateb yn ysgrifenedig i'r Gweinidog i ofyn am ragor o wybodaeth
mewn perthynas â nifer o faterion a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth, gan
gynnwys y potensial ar gyfer apeliadau lle cymeradwywyd cais cynllunio yn groes
i gynnwys cynllun datblygu lleol, sut mae modd herio penderfyniadau cynllunio,
a phrosesau ar gyfer monitro perfformiad arolygwyr cynllunio. |
||
P-05-845 Rhowch Derfyn ar Wrthdaro Buddiant yng Nghyfansoddiad Awdurdodau Lleol Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Neil Hemington a
Stephen Phipps. Cytunodd y
Pwyllgor i ymateb yn ysgrifenedig i'r deisebydd i ofyn am ei ymateb i'r
dystiolaeth a glywyd ac i nodi barn y Pwyllgor nad yw'n ymddangos bod llawer
arall y gellid ei gyflawni ar hyn o bryd, oni bai bod gan y deisebydd unrhyw
wybodaeth ychwanegol i'w rhannu. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Item
4 |
||
(9:45 - 10:00) |
Trafod y sesiwn dystiolaeth flaenorol Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y dystiolaeth y cyflwynodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a
chytunwyd ar gamau gweithredu pellach ar bob un o'r deisebau a drafodwyd. |
|
(10:00) |
Deisebau newydd |
|
P-05-884 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 i gynnwys sefydliadau’r DU sydd â gweithrediadau dramor Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn: ·
ymateb yn
ysgrifenedig i’r Gweinidog Addysg i ofyn: o
a fyddai'n
ystyried 'dynodi' y cyrsiau a ddarperir gan Sefydliad Prifysgol Llundain ym
Mharis i alluogi myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru i gael cymorth i fyfyrwyr i
astudio yno; ac o
a oes
unrhyw drafodaethau wedi cael eu cynnal gyda'r sefydliad am hyn. |
||
P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am
y tro cyntaf a chytunodd i wahodd y deisebwyr i gyfarfod y Pwyllgor yn y
dyfodol i ymchwilio yn fanylach i'w pryderon mewn perthynas â'r Llwybr Coch arfaethedig. |
||
P-05-888 Gwneud TGAU Iaith Gymraeg yn orfodol ym mhob ysgol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor
Ysgolion Annibynnol Cymru i ofyn am ei farn am y ddeiseb a gofyn am ragor o
wybodaeth ynghylch addysgu Cymraeg mewn ysgolion annibynnol yng Nghymru. |
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
||
P-05-717 Sefydlu hawliau mynediad statudol cyhoeddus i dir a dŵr mewndirol at ddibenion hamdden a dibenion eraill. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol a'r
deisebydd. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oes llawer pellach y gellir ei
gyflawni ar hyn o bryd yng ngoleuni natur faith y dadleuon sy'n ymwneud â
mynediad at ddŵr mewndirol, a'r dull gweithredu a gynigiwyd gan y Dirprwy
Weinidog yn dilyn yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd y llynedd. Felly, cytunodd
y Pwyllgor i gau'r ddeiseb. |
||
P-05-775 Cau'r bwlch gweithredu tacsis yn drawsffiniol ac is-gontractio. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a
chytunodd i aros nes bod yr adroddiad ynghylch Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar
Wella Trafnidiaeth Gyhoeddus yn cael ei gyhoeddi cyn ystyried a ddylid cymryd
camau pellach ar y deisebau. |
||
P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a
chytunodd i aros nes bod yr adroddiad ynghylch Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar
Wella Trafnidiaeth Gyhoeddus yn cael ei gyhoeddi cyn ystyried a ddylid cymryd
camau pellach ar y deisebau. |
||
P-05-827 Y ffyrdd o amgylch Trago Mills/Parc Manwerthu Cyfarthfa Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ei bod yn anodd gweld sut y gallai'r fynd â'r
mater yn ei flaen yn sgil diffyg cyswllt gan y deisebydd. |
||
P-05-847 Creu ffynhonnau dŵr yng nghanol dinasoedd a threfi er mwyn rhoi diwedd ar wastraff plastig. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion
Gwledig yn amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn
perthynas â Refill, a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am
godi'r mater hwn drwy'r broses ddeisebau. |
||
P-05-855 Adolygiad o ryddhad ardrethi busnesau bach Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ei bod yn anodd gweld sut y gallai'r fynd â'r
ddeiseb yn ei blaen yn sgil diffyg cyswllt gan y deisebwyr. |
||
P-05-802 Amddiffyn Maint Dosbarthiadau mewn Ystafelloedd Dosbarth a Gweithdai Dylunio a Thechnoleg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y Gweinidog Addysg a'r
deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yn dilyn y camau a gymerwyd i
atgoffa penaethiaid, cyrff llywodraethu ac eraill am yr angen i sicrhau bod
asesiadau risg dosbarth Dylunio a Thechnoleg yn cael eu diweddaru drwy'r
cylchlythyr Dysg. Wrth wneud hynny, roedd y Pwyllgor yn dymuno diolch i'r
deisebydd am godi'r mater hwn. |
||
P-05-860 Dylid gwneud gwersi sgiliau bywyd yn orfodol ar y cwricwlwm Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i wneud Senedd Ieuenctid Cymru yn
ymwybodol o'r ddeiseb yng nghyd-destun y gwaith y mae'n ei ddatblygu ynghylch
sgiliau bywyd yn y cwricwlwm. Cytunodd y Pwyllgor i aros am ei chanfyddiadau
cyn ystyried camau pellach ynghylch y ddeiseb. |
||
P-05-861 Gwneud addysg wleidyddol yn elfen orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y Gweinidog Addysg a chytunodd i aros am farn y
deisebydd cyn ystyried camau pellach ynghylch y ddeiseb. |